Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond 'roedd rhes o fotymau alcam ar hyd y ffrynt. Rhaid oedd cyfadde fod tsiêt yn ofynnol ar grys o'r fath !

Aeth y gŵr a minnau i ffwrdd am ychydig ddyddiau a gadawsom y ddau yn y tŷ a'r wraig fyddai'n dod i lanhau bob dydd i edrych ar ôl gwaith y tŷ iddynt. Ymgymerodd Bob a'r coginio—honnai fod yn fwy cyfarwydd na Hugh. Un bore gwnaeth uwd i frecwast. Tybiodd Hugh fod blas rhyfedd iawn ar yr uwd ac yr oedd yn glynu fel gliw wrth ei enau. "Be roi'st ti

yn yr uwd Bob"? gofynnai. "Mi ddwedai wrthyt ti fachgen—cefais hyd i baced o Atora suet yn y gegin—paced llawn weld di, a mi roddais y cwbwl yn yr uwd. Ardderchog—digon o ffat wyt ti'n gweld". Bu Hugh yn wyliadwrus iawn rhag uwd Bob o hyn ymlaen, ac yr oedd yn falch iawn ein gweld yn ôl.

Pan oedd yn byw ym Mirmingham dioddefodd Bob am amser hir trwy fethu cysgu. Cynghorodd cyfaill iddo yfed stowt bob nos cyn mynd i'w wely. Felly y bu ac yn wir 'roedd Bob wedi mynd i gredu na chysgai winc heb y stowt. Nid âi i dafarn i'w yfed ond i'w gyrchu, bob nos yn selog.

Pan ddaeth i fyw i Lundain at Hugh, rhaid oedd cael y stowt fel arfer. Âi bob nos cyn swper i dafarn yn y stryd nesa a deuai yn ôl a dwy botel hanner peint un ymhob poced a'r gyddfau'n sticio allan. 'Roedd hyn yn hollol yn erbyn y graen gan Hugh. Ofnai i'r cymdogion yn y stryd barchus lle y bywiant weld Bob a'r ddwy botel yn ei boced. 'Roedd rhoi troed mewn tafarn yn beth gwrthyn iawn yng ngolwg Hugh. Gyda llaw nid arferai yr un o'm brodyr yfed dim cryfach na the, ac nid ysmygant chwaith. Ac ni roddai Bob ei droed mewn tafarn ond i 'nôl y stowt. Cwynai Hugh hefyd na wnai Bob yfed y stowt mewn gwydr; mynnai Bob fod ei yfed yn syth o'r botel yn rhoi arno flâs hollol wahanol.

Digwyddodd i Bob gael annwyd mawr fel na allai fynd i 'nôl y stowt. Gwrthododd Hugh yn bendant wneud y neges yn ei le. Ond gwnaeth fargen â Bob. Cynigiodd wneud malted milk poeth iddo bob nos yn lle'r stowt. "Wel mi triwn ni hi",