Dau weinidog a gofiaf yn yr hen gapel. Y cyntaf a gofiaf oedd Griffith Parry. Byddwn yn ei ystyried yn ŵr mawr pan oeddwn yn blentyn. Ni chofiaf ei weld yn tywyllu ein tŷ erioed, na'i wraig chwaith. 'Roeddem yn bobol rhy fach i ŵr mor fawr gymeryd sylw ohonom. Cofiaf ef yn y pwlpud yn dda. Dyn lled dal, llydan o gorff, wyneb mawr llyfndew, locsyn o boptu ei wyneb a'i wefusau a'i ên wedi eu eillio. Talcen mawr a'i wallt yn dechrau colli ar y talcen. Byddwn yn edmygu ei dalcen gan y byddai'n sgleinio cymaint fel y gallech bron weld eich llun ynddo!
Yr ail weinidog oedd y sawl a ddilynodd Griffith Parry—W. R. Jones (Goleufryn). Dyn ifanc oedd ac yn fy meddwl i 'roedd yn ddyn prydweddol iawn ac yn wir 'roedd ei wraig ac ynte yn bâr hynod o brydweddol. Pryd tywyll oedd gan Goleufryn, wyneb glân a locsyn o'i ddeutu. 'Roedd ef a'i wraig yn boblogaidd iawn. Daeth i Lanrwst tua'r 1873, dwy flynedd cyn i John fy mrawd a minnau adael Llanrwst am Y Garn.
Ni fedrwn erioed wrando na deall pregethau Griffith Parry. 'Roeddent yn rhy ddiwinyddol i ddal fy sylw a'm diddordeb. Ni wyddwn ystyr hanner y geiriau mawr ac ni ddeallwn y pynciau dyrys. Ond, mor wahanol oedd pregethau Goleufryn. Cofiaf iddo am dymor, bob bore sul, bregethu ar yr Hen Destament er mwyn diddori y bobl ifanc a'r plant. Gwnaeth hanesion yr Hen Destament yn fyw ac yn lliwgar i mi am y tro cyntaf erioed ac erys yr argraff fyth.
Anaml cawn fynd i'r capel y nos, ond un nos Sul yn yr haf cefais fynd gyda Nhad. Cofiaf fy mod yn edrych drwy'r ffenestri ar y wenoliaid yn ehedeg ac yn gwibio o gwmpas y capel, a minnau yn meddwl mai chwarae a rhedeg rasus o amgylch y capel oeddynt. Toc, agorodd rhyw ddyn ddrws y ffrynt, rhoddodd ei ben i mewn a gwaeddodd: "Mae tâs William Pritchard Penybont ar dân". Cododd y gynulleidfa yn un ac allan a phawb. Ni welai neb ddim o'i le yn yr ymddygiad.