Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Roedd cymydog mewn helynt; dyletswydd pawb oedd troi ato i'w helpu. Nid dibynnu ar rhyw sefydliad, rhyw "fire brigade" neu rhyw beth cyffelyb a wnai dyn yr adeg honno, ond pawb yn barod i roi help llaw a phawb yn gwybod sut i ddibynnu arno ei hun yn ogystal.

Daw i'm cof adeg arall pan welais wagio capel, achlysur gwahanol iawn. Digwyddodd yn Llanrwst yn agos i 50 mlynedd yn ôl. 'Roedd "Organ Recital" yn y Capel, a'r lle yn llawn at y drysau. Daeth i'r plismon wrth y drws ffrynt newydd fod yr iard goed ar dân. Aeth sibrwd am y tân o un i un drwy'r gynulleidfa, ac yn ddistaw bach, o un i un cododd y dyrfa ac aethant allan ar flaenau traed. 'Roedd yr organydd yn cael hwyl dda ar y darn oedd yn ei chwarae, ac yn disgwyl cymeradwyaeth gynnes ar y diwedd. Er ei syndod ni chlywodd si. Trodd i weld beth oedd ar y gynulleidfa. Nid oedd o'i flaen ond seti gweigion! Nid awydd i gynnig help i ddifa'r tân fu'n achos i'r exodus, ond ffoi rhag y llid a fydd. Ymylai'r iard goed ar y gas works ac ofnai pawb weld chwythu tref Llanrwst i fyny i'r cymylau.

Ond i droi'n ôl at yr hen gapel. Ar y meinciau digefn ym mhen draw'r capel eisteddai y plant i gyd yn Seiat y Plant ar ôl yr oedfa fore Sul, y plant ieuengaf ar y fainc isaf a'r rhai hynaf ar y fainc uchaf. Uchelgais pob plentyn fyddai cyrraedd y fainc uchaf. Cofiaf fy hun yn dweud fy adnod ar y fainc isaf, adrodd yn ifanc iawn, a John fy mrawd ar y fainc uchaf pennau pregethau. Dyma yr arferiad pan oedd plant yn ddigon hen i ddysgu llith o'r fath ar gof. Byddai yn ofynol adrodd testun pregeth y bore sul cynt, a'r pennau pregethau, ac yn wir yr is-bennau. Gwaith anodd i blentyn gan fod y pennau yn ddyrys iawn ac yn hollol y tu allan i ddeall plentyn. Byddai'r meinciau yn orlawn bob bore Sul.

Deuai'r blaenoriaid allan o'r Sêt Fawr i ganol y llawr i wynebu'r plant ar y meinciau. Ambell dro gofynent i'r hen frawd Hugh Tomos y crydd annerch y plant. Cofiaf mor ddiflas fyddai gennym ei weld yn codi ar ei draed. Hen ŵr