Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a adwaenai'n dda. 'Roedd yn amlwg yn ôl ei stori nad oedd Ifan Jones y ffarmwr yn un llwyddianus iawn. Byddai'n mynd ar ei sbri yn aml pan ddeuai i'r dre i'r farchnad neu'r ffair. Dynes bur falch a gwastad iawn oedd Ann Jones ei wraig. Un tro pesgodd ddau fochyn a'u gwerthu, ac o'r elw prynodd set o ddannedd gosod iddi ei hun. Pan ddaeth Ifan adre o'r ffair nesaf yn feddw, dechreuodd Ann Jones draethu fel arfer, ond cyn iddi gael mynd ymhell ar ei llith dwedodd Ifan, "Taw di a son Ann, mi roi'st ti ddau fochyn tew yn dy geg ar unwaith". Ac am y tro cyntaf erioed bu'n rhaid i Ann dewi.

Byddai Ifan byth a hefyd ar ôl yn talu'r rhent, a phob esgus ganddo a bai ar bob peth ac ar bawb ond ef ei hun. Blinodd y meistr tir ar yr esgusion a phenderfynodd o'r diwedd orfodi i Ifan werthu rhai o'i stoc at dalu'r rhent.

'Roedd bragdy yn y dre (cofiaf ef yn dda). Byddai gwaddod, neu soeg, ar ôl y darllaw, a chariai'r ffermwyr lawer o hono i gymysgu â bwyd yr anifeiliaid. Byddai'r anifeiliaid yn mwynhau yn fawr y soeg yn gymysg a'r bwyd.

Y diwrnod cyn y sale aeth Ifan i'r bragdy i mofyn llwyth o'r soeg. Cadwodd yr anifeiliaid heb fwyd tan hwyr y nos, a rhoes iddynt wledd helaeth o soeg digymysg.

Trannoeth—dydd y sale—'roedd yr ocsiwnier a'i glerc yno'n brydlon, a'r ffermwyr wedi dod yn eu cerbydau o bob cwr i'r sir gan ddisgwyl bargen. Yn rhyfedd iawn, nid oedd yr un anifail i'w weld na'i glywed yn unman. R'oedd pob un yn gorwedd fel pe bai wedi marw, heb symud arno. Tybiodd y ffermwyr fod rhyw glwyf rhyfedd ar yr anifeiliaid ac nid oedd dim i'w wneud ond mynd adref yn waglaw. 'Toedd ond yr hen Ifan a wyddai ystyr y clwyf. Gwyddai ef yn eithaf da fod pob anifail wedi meddwi'n "chwil beipan" ar y soeg ac nad oedd dim i'w wneud ond eu gadael i gysgu'r sbri allan.

Gresyn na feddyliais ar y pryd am gofnodi holl ddywediadau Mrs. Griffith, y jokes a'r puns a'i holl storïau doniol. Erbyn heddiw diflannodd y rhan fwyaf o'm cof. Byddai llyfr mewn