PENNOD V
CYNFFONNA
GEIRIAU cyfarwydd iawn, i hen ac ifanc yr oes hon, yw queue, points, rations. Rhyfedd meddwl fel y daeth prinder a geiriau newydd, neu ystyr newydd i eiriau, i mewn i'r iaith. Mae'n wir fod geiriau Cymraeg am y tri, ond queue a points ddefnyddiwn i'r ddau gyntaf, ac yn wir clywir rations yn amlach na dogn.
Gŵyr pawb heddiw beth yw queue, er, mae'n siwr heb gofio pob amser mai cynffon yw queue! Mae'n rhan heddiw o fywyd beunyddiol pob gwraig tŷ. Cofiaf fel y byddai, yn adeg y rhyfel ac yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl y rhyfel, gweld queue hir yn rhywle yn ddigon i ddenu merch i ymuno heb wybod beth oedd i'w gael. Gofynnai i'r ferch nesaf ati "am beth maent yn ciwio"? Ar ateb yn aml fyddai, ""Dwn i ar y ddaear—ond mae'n siwr fod rhywbeth go bwysig i'w gael".
Daeth points ar un adeg bron yn fwy pwysig nag arian! (Gyda llaw, pan oeddwn yn ferch ifanc ystyr gwahanol iawn oedd i'r gair points. 'Roedd points yr adeg honno, o'r un ystyr a date gan ferch ifanc heddiw. Cytuno i gyfarfod mewn man a lle oedd "gwneud points" rhwng merch a llanc ifanc). Un haf clywais sgwrs rhwng hen wraig ac wyres fach tua 5 mlwydd oed, mewn siop yn y wlad. "Fase ti'n lecio cael da-da", (fferins neu sweets) gofynnai'r nain i'r fechan, a meddai'r fechan, "Oes gen ti boints"? 'Roedd y points yn bwysicach iddi na'r arian i brynu y da-da. Gwyddai nad oedd obaith am y da-da os nad oedd y points ar gael. Gwelais ddwy eneth fach un diwrnod yn edrych yn brudd ar y fferins mewn ffenestr siop, a'i hwynebau fel pe wedi eu hoelio ar y gwydr. A meddai'r fwyaf gydag ochenaid wrth y llall, "Waeth inni heb edrach, 'toes dim points ar gael".