â choed. Pan oedd y popty'n ddigon poeth cymerai gwraig y tŷ—popty rac a choes hir iddo a rhaciai'r tân i gyd allan o'r popty. Golchai'r popty'n lân gyda mop goes hir. Wedyn, rhoddai dorth ar y pîl (rhaw bren a choes hir iddi) a'i gwthio i'r popty. Pan fyddai'r popty'n llawn caewyd y drws yn dyn a chraswyd y toes am dair awr. Ceiniog y dorth fyddai'r tâl am grasu.
'Roedd o leiaf bedwar tŷ popty yn nhref Llanrwst yr adeg honno. I dŷ popty Rhobat Jôs yr awn bob amser. Ysywaeth mae cyfnod y Tŷ Popty wedi llwyr ddiflannu. Nid sachaid of flawd Caer neu flawd Double X a brynnir heddiw gan wraig teulu, ond torth siop a phaced o "self raising flour".
Byddai gan Mam a Nain ddiwrnod bob wythnos i bobi bara ceirch. Gwnai Mam ddau fath o fara ceirch-un caled at wneud brwas ac un "meddal" brau i'w fwyta rhwng dwy dafell o fara a menyn (neu frechdan yn ôl enw'r Gogledd) a menyn tew arno ac ar y ddwy dafell, math o sandwich bara ceirch. Dyna yr unig ffordd hyd heddiw y dewisaf fwyta bara ceirch.
'Roedd Mam yn feistres ar wneud bara ceirch.
Y gamp oedd rowlio'r "torthau" mor denau ag yr oedd modd a'i gosod ar y radell heb iddynt dorri. Byddai ganddi rhywbeth tebyg i raw bren, at y gorchwyl o'u troi. Wedi'r "bara" grasu, gosodai ef o flaen y tân i galedu, a thoc, gwelid yr ymylon yn cyrlio heb dorri. Dyna'r gampwaith wrth wneud bara ceirch fel y dylai fod.
Cofiaf fel y byddem pan yn blant yn gofyn dychmygion y naill i'r llall a dyma un: "Beth yw ladi wen lân yn eistedd o flaen y tân". Yr ateb oedd "torth geirch".
Dysgais bobi bara ceirch pan oeddwn yn ifanc iawn a daliais ati tan yn bur ddiweddar. Arferai rhai hen wragedd bobi bara ceirch at werthu. Adwaenwn un, "Meri Jones Bara Ceirch", ond erbyn heddiw, ychydig o ferched sy'n hyddysg yn y grefft Bara ceirch mewn paced, o'r siop, welwn gan fwyaf, dim tebyg i'r bara ceirch tenau brau at ei roi mewn brechdan.