Pan ddigwyddai fy mrawd John a minnau alw mewn ffarm yng nghylch Garn Dolbenmaen y croesaw fyddai powliaid o faidd, bara-ceirch a menyn tew arno a chlamp o ddarn o gaws cartre (a pheth caled fel haearn oedd). Gwlych wedi ei wasgu o'r caws oedd y maidd.
Cofiaf weld pobi bara peilliad (math o muffins) ond ni ddysgais erioed mo'r grefft. Byddai mynd da arnynt. 'Roedd yn ofynol rhoi cylch o haearn ar y radell i grasu y bara peilliad. Gwnai llawer o hen wragedd elw da wrth werthu bara peilliad, yn enwedig yn Sîr Fôn, ac ni phrofais ddim tebyg iddynt erioed.
Byddai John a minnau, pan aethom i'r Garn, yn cael ein gwadd i de neu i swper i dai yn y gymdogaeth. Nid i de neu swper fyddai'r gwadd chwaith, ond i fynd i'r fisit a "gwneud fisit" fyddai'r gwahoddwyr. Ymhob tŷ lle y gwnaed fisit, crempog fyddai ar y bwrdd yn ddieithriad, a'r crempog yn nofio mewn menyn.
'Roedd tŷ bychan wedi ei wyngalchu o tan yr un tô a Phen-y- bont yn y Garn. Credaf mai eiddo Penybont oedd. Yno trigai hen ferch o'r enw Beti Llwyd. Dioddefai Beti Llwyd oddi wrth "y riwmatics", a'i thraed a'i dwylo, ac yn wir ei hwyneb hefyd wedi troi ymhob siap. Er hynny 'roedd ei thŷ bach mor dwt â phin mewn papur. 'Toedd ots yn y byd faint o boen a ddioddefai, byddai bob amser yn siriol ac mewn hwyl, ac yn hynod o ddoniol. Mistar a Mistras a alwai Owen a Margiad Williams Penybont, a meddyliai'n uchel iawn ohonynt. Pan fyddai Margiad Williams yn "gwneud fisit" ym Mhenybont byddai'n rhaid cael Beti Llwyd i wneud "y grempog", ac yn wir 'roedd yn feistres ar y gwaith. Ni phrofais na chynt na chwedyn grempog tebyg. Dyma fel y gwnai Beti Llwyd. 'Roedd yn rhaid curo'r wyau am hydion; gwaith Phena'r forwyn oedd curo'r wyau. Nid oedd prinder wyau yr adeg honno. Yna toddai Beti Llwyd hanner llond dysgl bwdin fawr o fenyn—nid margarin (na national butter), ond menyn ffarm. Nid oedd son am y fath beth a margarin. Wedi'r crasu ar y radell rhoddai Beti Llwyd y