Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'roedd yr Ysgol Sul yn cyfarfod ar nos Sul mewn tŷ yn erbyn rheolau'r Eglwys. Mae yn gofiant gwerth ei ddarllen.

Ond i ddod yn ôl at Owen Owens, Capel Isa. Dyn tal, braidd yn ysgyrniog oedd, a chnwd trwchus o wallt yn britho. Ar y Sul gwisgai siwt o frethyn cartref llwyd, ac edrychai'n bur ddestlus. Ond gwelais ef yn dod i'r Seiat noson waith yn ei glocsiau a'i wallt fel pe bai wedi bod trwy'r drain ac heb grib yn agos. Yn amlwg wedi dod o ganol ei waith.

Ffarmwr oedd, yn Nhyddyn-y-Graig. Yno y mae rhai o'r teulu heddiw. Ffarm ar y llechwedd rhwng Dolbenmaen a'r Hendre Ddu yw Tyddyn-y-Graig. Credaf mai tir defaid oedd gan mwyaf. Ai Owen Owens i'r mynydd ddechrau'r gaeaf i ddod a'r defaid i lawr cyn y tywydd mawr. Un tro 'roedd un hen ddafad na allai Owen Owens yn ei fyw ei chael i ddilyn y gweddill i lawr. Ar ei waethaf mynnai'r hen ddafad ddianc a chrwydro lle y dewisai. "Wel aros di", meddai Owen Owens. Tynnodd ei ddwy glocsan a rhedodd yn nhraed ei sanau ar ei hôl nes ei dal.

Er ei fod o bersonoliaeth gref, eto ychydig o ddisgyblaeth oedd ganddo ar ei blant gartref. Y fam oedd y dylanwad ar yr aelwyd. Dynes dawel, gall oedd.

Ni chofiaf weld Owen Owens yn yr Ysgol Sul erioed ond nid oedd fai arno am hynny. Y mae yn agos i ddwy filltir o'r ffarm i'r Capel Isa, fel 'roedd mynychu moddion dair gwaith y Sul a cherdded yn ôl a blaen yn gryn dreth ar ddyn a weithiai yn galed ar hyd yr wythnos.

Nid oedd ganddo lawer o gydymdeimlad â'r bobl ifanc. Ni cheisiai roddi lle amlwg iddynt yng ngwaith yr eglwys. Un tro trefnwyd cyfarfod llenyddol ynglŷn â'r Ysgol Sul gan y bobl ifanc. Ni chredai Owen Owens y dylent gael rhyddid i gynnal cyfarfod o'r fath yn y capel. Felly, nid aeth yn agos i'r cyfarfod. 'Roedd y Primin (Agricultural Show) ym Mhwllheli yr un diwrnod a'r cyfarfod. Ac yno yr aeth Owen Owens. Daeth cydnabod ato, a meddai, "Hylo, nid oeddwn yn disgwyl eich