Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweld chi yn y fan yma; 'roeddwn yn meddwl fod gennych gyfarfod llenyddol yn y Capel Isa heddiw". A'r ateb oedd: "Mi glywais yn wir fod gan yr hogia acw rhyw firi yn y Capel". A dyna hynny o ddiddordeb a gymerai yn y "miri" chwedl yntau.

Ymladdodd yn erbyn pob mudiad newydd yn y Capel. Nid am ei fod yn ystyfnig am ei ffordd ei hun, ond am ei fod yn credu'n gydwybodol nad doeth oedd newid hen arferion. Cai ei goncro pob tro er iddo fygwth symud i gapel arall. Rho i mewn i'r mwyafrif yn y diwedd, ac ni chlywais iddo erioed ddal dig, ac ni chlywai neb son am y mater ar ôl hynny.

'Roedd yn hollol ddidderbyn wyneb, ac nid oedd arno ofn dweud y gwir yn blaen heb flew ar ei dafod, a digied a ddigio. Dyma un stori amdano—

'Roedd mab i ffarm yn y cyffiniau wedi priodi Bedyddwraig, ac er mai Methodistiaid Calfinaidd oedd ei deulu, trodd yn Fatus gyda'r wraig. A buan yr aeth yn fwy o Fatus penboeth na'r wraig. "Toedd dim i'w gael ganddo ond son am fedydd, nes yr oedd pawb wedi blino eu hoedl arno. Aeth i Tyddyn-y- Graig un diwrnod i weithio'n y gwair. 'Roedd yn amlwg fod Owen Owens wedi hen flino ar y son am fedydd byth a hefyd. Amser te, meddai'r llanc, "'roeddwn i'n deud wrth Dafydd fy mrawd nad eiff o byth i'r nefoedd os na cheiff ei drochi". A meddai Owen Owens yn gwta, "Ni chei dithau ddim mynd yno chwaith os na chei di bardwn ffwl".

Dyma stori arall amdano:—

'Roedd dyn o'r enw Ellis Jones yn byw mewn tŷ bychan heb fod ymhell o'n tŷ ni. Fe'i hadwaenwn yn dda. Dyn bychan oedd Ellis Jones, yn gwisgo du bob amser a golwg pur phariseaidd arno. Dwedid ei fod wedi bod yn berchen cryn eiddo fel adeiladwr tai yn Lerpwl, ond wedi colli ei eiddo ac wedi dod i'r Garn i fyw.