Credaf mai Owen Owens oedd y darllenwr goreu a glywais erioed. Yr oedd yn wych, ac ni ellid peidio a gwrando arno. Mae effaith ei ddarllen yn aros gyda mi hyd heddiw. Nid ang- hofiaf mohono yn darllen am Dafydd yn galaru am Absalom ei fab. Clywaf ei lais a theimlaf y galaru; a'r dinc dorcalonus yn ei lais. "O fy mab, Absalom, fy mab, fy mab. O na buaswn farw drosot ti, fy mab, fy mab Absalom".
Un Sul 'roedd cyfarfod gweddi yn y bore, Ysgol Sul y pnawn a phregeth y nos. 'Roedd ar ben chwech, a'r gynulleidfa yn ei lle yn disgwyl. Ond-nid oedd hanes am y blaenoriaid na'r pregethwr. Ychydig funudau ar ôl chwech daeth y blaenoriaid yn un rhês o'r tŷ capel i'r Sêt Fawr-ond dim hanes am y pregethwr. Dyna lle 'roedd y blaenoriaid yn edrych ar y cloc, ac yna ar ei gilydd. O'r diwedd pan oedd yn ddeng munud wedi chwech dwedodd Owen Owens yn uchel, "Wel ddaw o ddim. bellach, waeth i ni heb ei ddisgwyl". Amneidiodd un o'r blaen- oriaid arno "Dechreuwch chi", meddai. Ar ôl gryn stwyrian a thuchan cododd Owen Owens i ddechrâu. Ar ôl ledio pennill fesul dwy linell yn ôl yr hen arfer, darllenodd o'r Hen Destament (yn rhyfedd iawn, o'r Hen Destament y darllenai bob amser). Trodd i'r nawfed bennod yn llyfr y Pregethwr a phan ddaeth at y bedwaredd adnod-ar-ddeg a'r adnod ganlynol darllenodd: "Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a aeth yn ei herbyn hi ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn.
"A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas a'i ddoethineb". Cyn darllen y frawddeg nesaf, rhodd ochenaid fawr dros y Capel—"Eto, ni chofiodd neb am y gŵr tlawd hwnnw".
(Gyda llaw, arferai William, fy mrawd, ddweud mor awgrymiadol yw'r gair ochenaid, a chymaint gwell na'r Saesneg sigh). Hwyrach y dywedwch mai am bethau bychan y soniaf. Teimlaf fod ewythr hynod Owen Owens yn llygaid ei le pan ddywedodd mewn cyfarfod blaenoriaid Sasiwn Rhuthyn mai'r peth pwysig yw