"gwneud y pethau bach yn ein cyrraedd; dweud un gair bach wrth basio-dim ond darn adnod. Bydd llawer o bethau bach yn gwneud bwndel go fawr" meddai. Yn yr un araith dywedodd "A wyddoch chi beth yw 'cadw-mi-gei'? Rhyw focs bychan a thwll i roddi arian i mewn ynddo fo. Nid ydynt i ddod allan am amser hir iawn. Pan agorir y bocs bydd mwy yno nag y feddyliwyd. Mi wn am lawer i hen flaenor oedd wedi gollwng mwy i'r Cadw-mi-gei nag yr oedd ef ei hun na neb arall wedi ei feddwl. Mae'r cyfan yn y Cadw-mi-gei a dont i'r golwg pan fydd y Barnwr yn agor y blwch. Y pryd hwnnw bydd y dimeiau bychan wedi troi yn sofrens i gyd".
Dyna hanes ei nai Owen Owens, Tyddyn-y-Graig, Pen Blaenor Capel Isa, a hanes aml hen Ben Blaenor arall. Dwedodd "y gair bach wrth basio; a'r "darn adnod". Os pethau bychain ydynt, maent yn ddigon mawr i mi ei cadw'n fyw yn fy meddwl am fwy na thri-chwarter canrif.
'Roedd mwy o sofrens nac o ddimeiau ym mocs Owen Owens, a dyma fi yn talu teyrnged i'w waith a'i ddylanwad, a thrwyddo ef i bob hen Flaenor a fu'n llafurio ym mhob eglwys yng Nghymru.