Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr un ochr i'r sgwar a thŷ ladis Titla, 'roedd dwy siop. 'Roedd top yr adeilad yn taflu allan dros y palmant a physt o dderw du i'w dal i fyny. Dyna pam y gelwid hi'n Siop Tan y Pendist. Wrth gwrs cof prin iawn sydd gennyf am yr hen Dan-y-Pendist fel yr oedd yn y cyfnod pell hwnnw.

Cofiaf yr hen siop druggist un ochr i'r Sgwâr—a'r ffenestr hen ffasiwn yn taflu allan, a'r gwydr fel gwydr tew potel. Yn y ffenestr byddai dwy botel fawr wydr, a gwaelod llydan iddynt; un o liw coch, a'r llall o liw gwyrdd-las. Mewn potel lydan a dŵr ynddi, cadwai y druggist amryw o gelod. Âi aml i hen wraig yno am ddwy neu dair o'r gelod i roi ar rhyw glaf fyddai'n dioddef gan anhwylder allanol. Cofiaf weld hen wraig yn rhoi gelod ar wddf dyn oedd yn diodde oddi wrth "Glwy'r Brenin" (scrofula). Pan 'roedd y gelod wedi sugno digon, gollyngent eu gafael gan ddisgyn yn swrth, a'r hen wraig yn eu rhowlio mewn halen nes cael y gwaed allan ohonynt, cyn eu rhoi yn ôl yn y botel a'r dŵr, i gadw.

Yn yr amser cynnar y soniaf amdano, 'roedd Llanrwst yn hynod am rif ei thafarnau. 'Roedd pump ohonynt ar un ochr i'r Sgwâr yn unig. Gyda llaw, o holl dafarndai y dref, ni chofiaf fod mwy nac un ac enw Cymraeg arno! Rhaid dweud fod yma un gwelliant, gan fod mwy na hanner y tafarndai wedi eu cau. Ar ddiwrnod ffair byddai morwynion a gweision y ffermydd i'w gweld yn aml yn eistedd yn ffenestri agored tafarndai'r Sgwâr, yn cael hwyl ac yn edrych ar y mynd a dwad prysur.

Mae y cyfan o'r hen dai a siopau y Sgwâr wedi diflannu. Nid oes, heddiw, ddim o hynodrwydd yn aros yn y Sgwâr—dim yn hŷn na'r Town Hall.

Dyma hen adeilad arall, sydd mewn bod yn y dref, ond o'r golwg—yr hen ysgol Rad un-ystafell. Gorchuddiwyd hi gan ystafelloedd newydd yr Ysgol Sir, ac yna yr erys, a'i waliau llydan, gyda'r adeilad newydd o'i chwmpas yn hollol anghydweddol. Gwaeth na'r cwbwl, gosodwyd dau gargoyle yn perthyn i'r hen ysgol, uwch ben drws ffrynt adran y genethod yn yr adeilad