Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd. Dyma elwid yr Ysgol Ramadegol—yr Ysgol Rad—a sefydlwyd hi gan John Wyn o Wydyr.

Cofiaf yn dda fel y byddai bechgyn yr "Ysgol Britis" yn gweiddi ar ôl bechgyn yr Ysgol Rad.

"Ysgol Rad, Ysgol Ddrud
Ysgol sala yn y byd".

Daw sôn am yr Ysgol Rad i'm cof yr hen Honours Board, yn yr hen ystafell, ac yno, hyd heddiw, ceir enwau meibion hen deuluoedd yn ymddangos ymhob cenhedlaeth drwy'r cyfnod er agoriad yr ysgol. Pwy yn yr ysgol heddiw a ŵyr beth oedd cysylltiad yr enwau a'r ardal?

Bu cysylltiad hen deulu Gwydyr a'r dref yn dal ar hyd y canrifoedd. 'Roedd cysylltiad, drwy deuluoedd Ancaster a Carrington, yn dal hyd yn gymharol ddiweddar. Pan briodais, ac yn byw unwaith eto yn yr hen dref, byddai yr Arglwydd Carrington yn dod yn aml i'r castell, a llawer pendefig pwysig gydag ef, a byddai'n derbyn ac yn rhoi croesaw cynnes. Cofiaf, un tro, iddo ddod a'r Duke a'r Duchess of York (George V a'r Frenhines Mary yn ddiweddarach).

Gwahoddwyd côr y dref i ganu yn y castell, i ddiddori'r pâr ifanc. Cofiaf y noson yn dda. 'Roedd y pendefigion ar ôl cinio mewn ystafell fawr uwchben, a'r côr yn canu mewn ystafell islaw. Mae'n debyg i'r gwrandawyr fwynhau canu un gân yn arbennig. Ni allwn lai na meddwl wrthyf fy hun, mai ffodus oedd na ddeallant y geiriau. Ni fuasent yn teimlo'n llawn mor gyfforddus pe baent yn deall ein bod yn canu y dôn "Dies Irae" ar y geiriau

"Duw mawr, pa beth a welaf draw,
Diwedd a braw yr hollfyd".

Ar ddiwedd y canu, daeth Arglwydd Carrington i lawr i gyrchu arweinydd y côr a'i gyflwyno i'r teulu brenhinol. Daeth y pâr ifanc i lawr at y Côr. Cofiaf yn dda wisg y Duchess—