'Roedd wedi bod yn wael, ac yn nhyb ei fam, 'roedd mynd i Lundain yn orchwyl fawr. Pan 'roedd ar gychwyn rhoddodd iddo botel fechan flat, yn llawn o frandi. "Cymer di hwn William bach", meddai. "Cadw'r botel ym mhoced dy frest, rhag i ti deimlo'n sâl yn Llundain ac heb ddim ffisig". Cadwodd W.H. y botel yn ei boced ac anghofiodd amdani. Trannoeth aeth i'r gwasanaeth bore yn eglwys St. Paul. Rhywfodd, wrth iddo ogwyddo, llithrodd y botel frandi o'i boced a sglefriodd ar hyd y llawr carreg rhwng traed y gynulleidfa am gryn bellter. Gwelai rhywun yn codi'r botel ac yn ei phasio o law i law ar hyd y rhês. Teimlai ei hun yn chwysu fel y nesaodd y botel ato nid oedd am i neb ddeall mai fe oedd y perchennog. 'Toedd ond un peth i'w wneud. Pan ddaeth y botel i'w law, heb oedi dim, pasiodd hi i'r nesaf ato—a dyna'r olwg diwethaf a gafodd o'r botel frandi. Ni chlywodd byth sôn amdani na lle y terfynodd y daith.
Ond i ddod yn ôl at ddychmygion ac at y drydedd stori sydd gennyf i ddangos mor bell y gall dychymyg arwain dyn.
Mewn ardal wledig yn uchel ar lechwedd y mynydd 'roedd capel bychan ar lecyn oer iawn, heb fath o gysgod iddo. Cwynai y gynulleidfa fechan am oerni'r capel yn y gaeaf, ac yn wir cytunai'r blaenoriaid i gyd ond un. Ni chytunai'r hen flaenor Griffith Roberts fod angen twymo'r capel. Mynnai ef mai dod i'r capel i wrando'r efengyl ac i weddïo ddylai fod amcan pawb ac nid i eistedd yn gysurus. Gwres ffydd a chariad oedd yn ofynnol, nid gwres corff. Ond, er brwydro'n hir, colli wnaeth yr hen frawd a phenderfynnwyd cael stôf oel i dorri tipyn ar yr iâs oer.
Un bore Sul oer, rhewllyd, gwelwyd fod y stôf wedi cyrraedd, ac yn y Sêt Fawr. 'Roedd golwg gysurus iawn ar y stôf, gyda'r gwydr coch yn y ffrynt. 'Roedd y gwasanaeth wedi dechrau cyn i Griffith Jones gyrraedd y capel. Pan welodd y stôf yn y yn y Sêt Fawr gwgodd yn guchiog arni ac aeth i eistedd i ben draw'r Sêt Fawr, cyn belled ac y gallai oddiwrth y stôf. Toc, tynnodd y