Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

muffler oddi am ei wddf, a datododd ei dop côt. Yna tynnodd hi a'i rhoi ar ochr y Sêt Fawr yn rhodresgar. 'Roedd yn amlwg iddo deimlo'n anghysurus dros ben. "Phew", meddai, a thynnodd allan ei gadach poced i sychu'r chwys a fyrlymai i lawr ei wyneb.

Ar ddiwedd y gwasanaeth aeth at y blaenoriaid eraill, gan ddal i sychu'r chwys o'i wyneb. Cyn i neb gael cyfle i ddweud gair dechreuodd ddweud y drefn yn hallt am y stôf. "Toes dim rheswm mewn dod a'r fath beth i'r Sêt Fawr, nac i'r capel o gwbwl. Mae'n ddigon a mygu dyn. 'Rydw i'n chwys dyferol oddi wrth y gwres, ac am y tro cyntaf yn fy oes methais a gwrando'r efengyl. Gwaith Satan yw'r cyfan".

Atebodd un blaenor wrtho'n dawel: "Wel, Griffith Jones pe buasech wedi dod i'r capel cyn i'r gwasanaeth ddechrau buasech wedi cael ar ddeall, er fod y stôf wedi cyrraedd, nad yw'r oel wedi cyrraedd eto".

Ie, peth rhyfedd yw dychymyg!