o'r ardal D.J. a J.J. 'Roedd D.J. yn hynod o dal, dros ddwy lath o hyd, a W.H. a J.J. ym gymedrol o ran taldra. Un noson olau leuad yn y gaeaf hudwyd W.H. i fynd gyda'r ddau i streicio er mwyn tipyn o hwyl. W.H. oedd i gael y cynnig cyntaf. 'Roedd ganddo gôt fawr pur laes amdano y noson honno a chan ei fod yn un llawn direidi perswadiodd D.J. i'w gario ar ei ysgwydd "ging gong gafr" fel y dwedai'r plant, ar ôl cyrraedd y ffermdy. Botymodd W.H. y gôt fawr am ben D.J. fel nad oedd ond y darn isaf o'i gorff yn y golwg. Edrychai W.H. yn ddyn aruthrol o dal erbyn hyn, 'roedd yn ddigon tal i guro ffenestr y ferch yn lle lluchio cerrig mân. Toc, daeth y ferch ifanc i'r ffenestr i edrych pwy oedd yno, a phan welodd y fath anghenfil o ddyn sgrechiodd "Wah"! dros y lle nes deffro ei thad. Nid oedd amser i D.J. ddod yn rhydd o'r gôt, nac i W.H. ddisgyn o'i ysgwyddau. Clywsant y tad yn rhedeg i lawr y grisiau ac i ffwrdd a D.J. fel yr oedd, yn carlamu gorau gallai. Pan agorodd y tad y drws gan feddwl dal y troseddwr, safai wedi ei syfrdanu. "'R Israel fawr", meddai, "O ble'r andros daeth y diawl yna"?, mewn dychryn mawr; a pha ryfedd. 'Roedd golwg rhyfedd ac ofnadwy ar y ddau gyfaill. Y gôt fawr, wedi ei hanner ddatod erbyn hyn er mwyn i D.J. weld y ffordd, yn fflapio o'r tu ôl wrth iddo redeg, ac yn ymddangos yn y nos fel cynffon anferth. Tybiodd y ffarmwr mai doethach fyddai mynd i'r tŷ a chau y drws na mentro allan. Yn y cyfamser 'roedd J.J. wedi ffoi o olwg y tŷ ac yn ei ddau ddwbwl gan chwerthin.
J.J. oedd i gael y cynnig nesaf ar ôl iddynt fynd yn ddigon pell o'r ffarm gyntaf. Daethant at ffarm arall ac aeth J.J. ati i streicio ar y ferch. 'Roedd y cae heibio un talcen i'r tŷ yn uwch na'r tŷ, a llwybr yn arwain i ben y cae. Llwyddodd J.J. i gael y ferch i ddod i lawr ac agor ffenestr y parlwr, a dyna lle 'roedd J.J. a'i hanner i mewn yn y parlwr ac wedi cael gafael ar ddwy law y ferch a'r ddau'n cael hwyl dda. 'Roedd D.J. a W.H. wedi cerdded i fyny'r llwybr ac yn gweld J.J. yn aros yn hir.