PENNOD X
Y CI, Y GATH A'R IÂR
DARLLENAIS erthygl mewn papur newydd y dydd o'r blaen, ar anifeiliaid. Gosodai'r erthygl gwestiwn o flaen y darllenwyr a all anifeiliaid ymresymu a meddwl? Cwestiwn pur ddyrys, ond cwestiwn llawn diddordeb i bawb sy'n gyf- arwydd ag anifeiliaid. Ni lwyddais erioed i ateb y cwestiwn i'm boddhad fy hun, ac eto, anodd yw gwrthod cydnabod fod rhyw fesur o reswm yn ymddygiad rhai ohonynt, yn ôl fy mhrofiad i. Hwyrach mai gwell fyddai i mi osod y dystiolaeth o flaen y darllenydd, a gadael iddo ffurfio ei farn ei hun.
Credai Nhad yn ddiffuant y gall ci ymresymu. Adroddai wrthym droeon hanes yr ast fu ganddo ef a'i frodyr pan yn blant yn Nhŷ Newydd, Maenan. 'Roedd yr ast yn gyfaill mawr iddynt. Canlynai ar eu hôl i bob man, ac ni feiddiai neb dieithr gyffwrdd pen bys â'r plant os y byddai hi'n agos.
Yn y cyfnod hwnnw 'roedd y frech wen yn gyffredin iawn drwy'r wlad. Cymerodd y tri plentyn hynaf y clefyd—Nhad, Letus ei chwaer a Richard ei frawd, a buont yn wael am wythnosau. Yn y cyfamser cafodd yr ast gŵn bach. Boddodd Nain y cŵn bach gan nad oedd neb ar gael i ofalu amdanynt, a chladdodd hwynt o dan goeden yn y berllan. Cyn belled ag y gwyddai Nain ni welodd yr ast beth a wnaeth. Pan drodd y plant at wella rhoddodd Nain gadeiriau iddynt i eistedd allan yn y buarth yn llygad yr haul. 'Roedd yr ast yn neilltuol o falch o'u gweld. Neidiai a champiai fel pe bâi'n ffaelu gwybod faint mwy o groeso i roi iddynt. Rhedodd yn syth i'r berllan. Crafodd y pridd oddiar y cŵn bach a chariodd hwynt fesul un yn ei cheg i'w gosod yn rhes o flaen y plant. Wedi i'r plant syllu arnynt, cariodd pob un yn ôl i'r twll a chrafodd y pridd yn ôl arnynt. Beth oedd yn ei meddwl? Ymddangosai'n union fel