Ni pherthynai rinwedd neilltuol i'r gath—ond yn unig y gallai agor drws y gegin gefn ei hunan. Drws hen ffasiwn a dolen a chlicied iddo yn uchel i fyny oedd i'r gegin gefn. Bûm yn gwylio'r gath yn gwneud yr orchest lawer gwaith. Neidiai ar lintel y ffenestr yn ymyl y drws. Rhoddai naid arall i gydio am y ddolen a'i phawen dde nes y byddai'n crogi wrtho. Gyda'r bawen chwith, pwysai y gliced i lawr a gwthiai a'u dau droed ôl yn erbyn post y drws nes yr agorai. Yna neidiai i lawr ac i mewn i'r gegin gefn a hi. Ni fuaswn yn credu y fath beth ond i mi ei gweld a'm llygaid fy hun. Gwelais gath cymydog yn sefyll ar ei thraed ôl ac yn ysgwyd caued y bocs llythyrau er mwyn galw sylw rhywun i agor y drws, ond ni welais erioed gath arall yn agor y drws ei hunan. Sut y deallodd y ffordd i weithio'r gliced?
Ar ôl colli Teigar cafodd rhyw anhwyldeb ac er inni wneud pob peth a allwn, gwaethygu a wnaeth ac yn fuan iawn collwyd y gath hefyd. Bûm yn tybio mai hiraethu ar ôl Teigar a wnaeth. 'Roedd mewn iechyd perffaith cyn colli Teigar. Pwy a ŵyr?
Ac yn awr, o'r triawd, nid oedd ond yr iâr yn aros. Eiddo William fy mrawd oedd yr iâr, wedi iddo ei chael yn anrheg gan Catrin Morris, y wraig arferai lanhau'r ysgol. Un ryfedd oedd yr iâr fach. Ni fodlonai ar fod allan yn yr ardd fel iâr gyffredin. Yn y tŷ gyda'r teulu, a Theigar a'r gath y mynnai fod, os câi heddwch i aros yno. Os byddai i ni ei hêl allan i'r cefn, âi drwy'r ardd yn syth ac i mewn yn ôl trwy'r drws ffrynt yn dalog. 'Toedd ddiben yn y byd gwneud nyth taclus iddi mewn bocs, mynnai ddodwy yn y mannau rhyfeddaf—tu fewn i rât y parlwr os byddai'n wâg, neu ar y gwely os cai ddrws ystafell ar agor. Gwelais hi fwy nac unwaith yn dodwy ar un o'r desgiau yn yr ysgol. Deuai plant a'u bwyd i'r ysgol—bara- menyn a photelaid o lefrith fel arfer. Buan iawn y deallodd yr iâr hyn, a byddai'n anelu am yr ysgol bob canol dydd fel cloc, er mwyn gwledda gyda'r plant. 'Roedd felly'n hollol gyfarwydd a'r ysgol. Un diwrnod aeth yno adeg gwersi, a'r plant a'r athrawon i gyd yn brysur. Ceisiodd un o'r athrawon ei hel allan,