Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dychrynodd yr iâr gymaint fel yr ehedodd i fyny a disgyn ar ben geneth yn y dosbarth—Elin Ynys Ddu. Meddai Elin ar gnŵd o wallt trwchus; glynnodd traed yr iâr yng ngwallt Elin ac ni allai ddod yn rhydd. Dychrynodd Elin, a rhedodd ar hyd yr ystafell dan screchian, ar iâr wedi dychryn cymaint ag Elin. Ni fu erioed y fath helynt, yr iâr yn ysgwyd ei hadenydd ac Elin a hithau yn screchian am y gorau, a'r plant wrth gwrs wrth eu bodd. 'Roedd cystal a syrcys. O'r diwedd llwyddwyd i dynnu traed yr iâr o wallt Elin. Ond rhoddodd yr anffawd gyfle i John. 'Roedd wedi teimlo am beth amser fod yr iâr wedi mynd yn dipyn o niwsans yn yr ysgol. Gwyddai na fynnai William i neb ei lladd, felly, rhoddwyd hi i Jane Owens, Cae'r Arba. Gan fod ganddi hanner dwsin o ieir tybid y buasai'r iâr fach yn cartrefu'n well. Ond, yr un oedd yr iâr yng Nghae'r Arba ac yr oedd yn Nhŷ'r Ysgol. Ni wnai gyfathrach a'r ieir eraill. Yn y tŷ gyda'r teulu hoffai fod, ac âi i ddodwy i'r cwpwrdd pres os cai'r drws yn agored. Un diwrnod 'roedd John Owens y gŵr yn ei wely'n wael. Yn sydyn clywai sŵn pit-pat-pit-pat, fel pe bai rhywbeth yn dod i fyny'r grisiau. Toc, agorodd y drws yn araf; rhoddodd yr iâr ei phen trwy'r drws a mawr oedd ei siom pan welodd fod John Owens wedi achub y blaen arni. Trodd yn ôl i lawr y grisiau yn llawn sŵn drwg fel y bydd iâr yn chwilio am le i ddodwy.

Daeth yn amlwg yn weddol fuan na fynnai ieir Cae'r Arba eu dilorni gan y iâr fach. Mae'n rhaid eu bod wedi penderfynu gyda'i gilydd i roi curfa dda iddi pan gawsant afael arni. Daeth cyfle un diwrnod pan drodd yr iâr fach am dro i'r ardd. Rhuthrodd yr ieir arni yn ddidrugaredd, a churwyd hi hyd angau. Dyna ddiwedd yr iâr fach ryfedd. Piti ynte! A dyna ddiwedd bellach ar y triawd fu'n byw mor hapus a chytûn yn Nhŷ'r Ysgol, diwedd mor drychinebus i'r tri.

Anifail gwahanol iawn oedd Bili, bwch gafr fy nhad-yng- nghyfraith yn y Gaerwen. Cedwid geifr i bori ymhlith y gwartheg. 'Roedd Bili'n anifail mawr a dau gorn anferth ganddo.