Gadawaf y cyfnod pell a dof yn nes i'r oes bresennol i sôn am y ci bach mwyaf hoffus, mwyaf ffyddlon a mwyaf deallus a welais erioed. I Lanrwst y perthyn hanes Taffy—ci bach melyn a du fu'n gyfaill imi am flynyddoedd. 'Roedd pawb yn ei adwaen ac yr oedd pawb yn hoff ohono. Os digwyddai i'r teulu fod allan a'r drws wedi ei gloi pan ddeuai Taffy adre, ar ôl crwydro hyd y caeau, eisteddai ar ganol y ffordd fawr i lefain dros yr ardal. Llawer tro y dywedodd cymdogion, "Clywais Taffy yn llefain yn chwerw amdanoch".
Ni ddeallais erioed pa un ai hoffi ai casau sŵn y piano a wnai Taffy. Hudai ni at y piano, yna eisteddai ar ei golyn i ddisgwyl, a'r foment y clywai sŵn yr offeryn codai ei drwyn i fyny a dechreuai udo. Ni symudai oddiyno tra y daliai'r chware. Buasai dyn yn taeru mai canu 'roedd nerth ei ben, ond, ow am sŵn ofnadwy a wnai!
'Roedd ganddo ei gyfeillion arbennig. Am amser 'roedd yn gyfeillgar iawn â gast o Blas Isa. Diddordeb mwyaf yr ast oedd hela. Bu cipar Plas Madog yn bygwth ei saethu lawer gwaith os na wnai ei pherchenog ei chadw'n rhwym. Fel yr oedd waethaf modd, hudai Taffy i hela gyda hi bob cyfle a gâi a byddai'n ddigon hawdd gweld oddiar gyflwr Taffy mae ef fyddai'n gwneud y gwaith butraf.
'Roedd yn gyfaill hefyd a chi du mawr y Queen's Hotel. Un diwrnod llwyddodd yr ast i hudo y ddau i gychwyn hela. 'Roedd fy ngŵr a minnau yn digwydd sefyll yn nrws y cefn yn edrych ar y tri'n cychwyn i fyny cae Penloyn i gyfeiriad coed Plas Madog, yr ast ar y blaen, y ci mawr a'r ci bach yn trotian y tu ôl. Yn sydyn safodd y ddau gi ar y cae, gan droi at ei gilydd, yn hollol fel pe baent yn ymgynghori a'i gilydd ac yn gofyn,
"Ydi o'n werth mynd"? 'Roedd yn amlwg i'r ddau benderfynu y cai'r ast fynd ei hunan os oedd am fynd i hela. Trodd y ddau ei hwyneb am gartre. Eisteddai yr ast ar y cae tra'r ymgomiai'r ddau. Pan welodd y ddau'n troi cefn arni, trodd hithau i'w dilyn, yn bendrist a'i chynffon rhwng ei choesau.