Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y byd. Toc clywyd y llais rhyfedd eto yn gwaeddi, "I lawr, i lawr, i lawr"—ond y tro hyn yn nes atynt. Erbyn hyn 'roedd y ddwy mewn braw mawr, a gwrychyn Taffy yn syth i fyny, ac yntau yn crynu ac yn chwyrnu'n arw. Heb ddweud yr un gair y naill wrth y llall rhedodd y ddwy ar draws y lle glas ac i lawr i'r coed yr ochr arall i'r mynydd, a'r llais yn eu dilyn. Yn y man cawsant eu hunain o gyrraedd y llais ond ar fin clogwyn syth a dim na llwybr na lle y gallent fynd i lawr. Beth i'w wneud? dyna'r broblem fawr. 'Roedd wedi dechrau tywyllu, yn enwedig yn y coed, nid oedd ganddynt syniad i ba gyfeiriad i gychwyn ac ni feiddient droi'n ôl. "Toedd ond un peth i'w wneud—gosod y cyfrifoldeb ar Taffy. Gollyngwyd Taffy o'r gadwyn. "Dos a ni gartre Taffy bach", meddant, ac i ffwrdd ac ef ar unwaith, mor bryderus a hwythau i gyrraedd gartref. Gwthiodd drwy'r grug a'r rhedyn, y drain a'r mieri, a'r ddwy yn canlyn, i fyny ac i lawr, strim-stram-strellach. Ni hitient ddim fod eu dillad wedi rhwygo. Cyrraedd adre rhywsut oedd y peth pwysig. Os byddai Taffy wedi mynd tipyn o'u blaen, safai nes y deuent i'r golwg, yna i ffwrdd ac ef, ac o'r diwedd llwyddodd i'w harwain i ffordd Llanrhychwyn ac yn fuan i'r ffordd bôst. Ni fu erioed mor dda gan y tri gyrraedd adre a'r noson honno. Trannoeth, wrth adrodd yr hanes wrth wraig yn y dref, a adwaenent yn dda, gwraig pur wybodus a darllengar, yn fwy felly na'r cyffredin ond er hynny'n ofergoelus, synnent ei chlywed yn dweud, "Wyddoch chi ddim fod y lle y soniwch amdano yn lle ag ysbryd yn ei aflonyddu"? Ni fynnai'r genethod dderbyn y fath syniad: "O ydi", meddai'r wraig, "mae'n eitha gwir. 'Roedd tyddyn taclus yno ers talwm, ond ni allai neb fyw yno, 'roedd rhywbeth yn aflonyddu arnynt, fel pe bai yn benderfynol i'w gyrru oddi-yno, ac o'r diwedd gadawyd y tŷ ac aeth a'i ben iddo fel y mae yn awr".

Beth bynnag oedd esboniad yr hanes, nid yw'r ddwy wedi anghofio hyd heddiw y llais rhyfedd a'u dychrynodd gymaint, na'r modd yr arweiniodd Taffy hwynt i ddiogelwch.