Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi y dillad i'w thŷ i'w golchi ac ystyriai ei hun o'r herwydd radd yn uwch na'r merched a âi i'r tai i olchi wrth y dydd. Naw ceiniog y dwsin oedd pris Margiad Ifans, beth bynnag fyddai maint y dilledyn, coler neu grys, neu gynfas. Bywiai mewn tŷ bychan ar ochr y ffordd—tŷ a pharlwr bach yn y ffrynt, cegin y tu ôl a lle bychan, prin ddigon i chwipio cath ynddo, y tu ôl i ddrws y gegin. Dyma lle y golchai'r cwbwl. Rhaid fyddai gadael y drws yn agored haf a gaeaf er cael lle i'r twb golchi. Y peth mwyaf pwysig yng ngolwg Margiad Ifans oedd "tywydd sychu". Pe buasech yn ei chyfarch "Dydd da Margiad Ifans, mae'n ddiwrnod braf heddiw". "Ydi mae'n dywydd ardderchog i sychu" fyddai'r ateb.

Gweithiai hi a'r ferch Mari yn galed iawn o fore dydd Llun hyd nos Sadwrn. Ond ar y Sul cai'r twb golchi a'r heyrn smwddio lonydd ac âi Margiad i'r capel yn selog bob bore Sul. "Dydw i ddim yn eich deall, Margiad Ifans", meddai un wraig wrthi un diwrnod, "dyma chi'n gweithio'n galed ar hyd yr wythnos ac eto codwch yn fore i fynd i'r capel fore Sul yn lle aros gartre i orffwys tipyn". "Wel ia ynte", meddai Margiad, "ond i chi ddeall, dim ond yn y capel y caf gyfle i orffwys".

'Roedd golwg heini, llyfndew ar Dafydd, gŵr Margiad Ifans, ond ni allai weithio oherwydd y "riwmatics". Ni allai blygu ei goesau a phwysai'n drwm ar ddwy ffon wrth gerdded. Dwedai Margiad y gallasai Dafydd fod wedi dal ati yn hwy nag y gwnaeth, ond yn wir credaf i Dafydd gael bywyd rhy gyfforddus, a'i wraig a'i ferch yn tendio arno. Gwelais ef lawer gwaith ar ddiwrnod o haf yn sefyll a'i gefn ar wal y ffordd fawr, a'i law fel crafanc yn barod i dderbyn ychydig o geiniogau gan hwn a'r llall, at brynu baco. Ni fu gennyf amynedd ag ef; dyn nad oedd yn meddwl am ddim ond ei gysur ei hun.

Ar fwrdd wrth y ffenestr ym mharlwr y ffrynt y gwnai Margiad Ifans y smwddio, a chan fod y tŷ ar ochr ffordd gwelai pawb âi heibio. "Lle y mae o'n mynd yn edrych mor spriws, tybed", meddai wrth Mari; "hwyrach ei fod yn mynd