i gyfarfod hon a hon". Neu "Os gwn i ble mae hi yn hêl ei thraed heddiw". Nid oedd ynddi falais o gwbwl, ond teimlai ddiddordeb ym mywyd pawb o'i chwmpas. 'Roedd amgylchiadau ei bywyd hi mor llwm fel yr hoffai weld lliw ac amrywiaeth lle y gallai. 'Roedd yn naturiol, felly, gan yr âi gymaint i dai i ddanfon dillad ac i'w nhôl, iddi wybod hanes pawb mor dda. Pan ddeuai i'n tŷ ni gyda'r dillad glân, gwyddwn wrth y ffordd bendant y gosodai'r fasged ddillad i lawr pan fyddai ganddi stori bwysig. Gwyddwn hefyd y buasai'n siomedigaeth ddirfawr iddi os byddwn wedi clywed y stori eisoes. Dyma fel y dechreuai bob amser, "Glywsoch chi am hon a hon, neu hwn a hwn"? Ysgydwn innau mhen. "Wel wir", meddai, "mae'n dew ac yn dene gan bawb". Yna adroddai'r stori—ambell dro byddai'r stori'n bur gynhyrfus—a diweddai'r sgwrs bob amser gan daro ei llaw ar ben fy nglin, "Ond, ddynes annwyl, peidiwch a'm henwi i".
Un diwrnod 'roedd mewn mwy o frys nac arfer pan ddaeth a'r golchi yn ôl. "Beth ydi'r brys Margiad Ifans"? "Wiw imi ymdroi heddiw, mae Dafydd yn ei wely". "Ydio'n sâl", gofynnais. "Na, 'toes fawr helynt arno a dweud y gwir, wedi ffraco a Mari y mae. 'Roedd Mari'n glanhau'r gegin, ac yr Dafydd o dan ei thraed. 'Roedd Mari eisio iddo 'molchi. 'Roedd cyn ddued a'r gloyn. Na wnai ef yn wir. 'Roedd wedi molchi'n lân ddoe. "Toedd dim eisia 'molchi eto heddiw. Aeth yn ffrae benben ac aeth Dafydd allan wedi pwdu. 'Roedd ef am fynd i'r wercws, câi lonydd yno, siawns. Aeth i eistedd allan ar y cerrig, a chafodd oerfel i'w goesau ac yn ei wely y mac. Mae'n dweud nad oes arno eisiau bwyd, ond 'rydym yn dal i gario iddo ac mae'r cwbwl yn mynd o'r golwg i rhywle".
Sylwais ers tro fod ganddi hen beswch cas. "Toedd ryfedd yn wir. Ar dywydd gwlyb crogai y dillad gwlyb uwchben i sychu. "Mae peswch garw arnoch Margiad Ifans", dwedais wrthi. "Ddynes bach", meddai, "pe clywsech fi'n pesychu ac yn fflemsio yn y bore mi ddychrynnech". Bu'r dillad gwlyb a'r