ar dipyn o sbri a meddwai'n chwil, ac anghofiai'r papur a'r cofrestru. I mi yn unig, o'r 7 plentyn, y digwyddodd y fath anffawd. A dyna fi, heb fodolaeth swyddogol! Pe bâi Mam yn fyw buasai'n gwybod y dyddiad a'r flwyddyn, ond 'roedd wedi marw. 'Roedd yr hen fydwraig a'm dygodd i'r byd wedi marw. Gwyddem fod fy mrawd Bob yn hŷn o ddwy flynedd na mi; gwyddem fod William ddwy flynedd yn iau na mi, felly hawdd oedd sefydlu blwyddyn fy ngenedigaeth. Ond nid oedd hyn yn ddigon i bwrpas swyddogol. Bu affidavits gan John a chan gymydoges â wyddai fy mod wedi'm geni yr un mis a'i merch, ond, nid oedd yn ddigon. Yn sydyn, cawsom hyd i hen Feibl mawr teuluaidd, ac ar y ddalen gyntaf, restr o enwau'r teulu i gyd a dyddiad genedigaeth pob un. Derbyniwyd y dystiolaeth, a dyma fu ar hyd fy oes fy nghystysgrif genedigaeth swyddogol—dalen o'r Beibl Mawr. Ymfalchiaf yn y fath dystysgrif.
Dwg ar gof imi stori a glywais gan fy nhad, am lanc ifanc o'r ardal yn hwylio i briodi. 'Roedd eisiau cyhoeddi'r "stegion" (gostegion) yn eglwys y plwyf dair milltir o bellter o'r tŷ. Nid oedd gan y llanc hamdden i fynd a'r manylion i'r Person. Gofynnodd i hen gyfaill a elwid "yr hen gipar" a fuasai'n mynd a'r manylion. Cytunodd ar unwaith. Rhoddodd y papur a'r manylion arno yn ei boced. Cyn cychwyn newidiodd ei siwt ac i ffwrdd ag ef ar ei neges. Pan gyraeddodd dŷ'r Person, gwelodd ei fod wedi gadael y papur ym mhoced yr hen siwt. Gallai gofio'r manylion am y llanc ond ni allai yn ei fyw gofio dim am y ferch ifanc, a meddai wrth y Person, "Rhowch ryw enw arni, mae hi'n siwr o ddod".
Bu llawer gwelliant erbyn heddiw ar bob llaw. Meddyliaf fel y byddai meddyg, mewn ffroc côt a het silc bob amser, yn dod yn syth at wely'r claf, o'i gerbyd heb feddwl golchi ei ddwylo yn gyntaf, ac fel y byddai clefydau'n gwau drwy ardal, o ddiffyg glendid yn aml—diffyg sebon a soda! Eto, nid drwg oedd y cyfan ddoe ac nid da y cyfan heddiw. Byddai'r meddyg yn