"Dos yn dy ôl ti ddiawl di-lun A newid dy fuchedd fochyn".
Ac wrth gwrs diflannodd y mochyn! Dwedai Modryb, pe bai "gŵr cyfarwydd" wedi bod ar gael ar y pryd, buasai wedi gorfodi'r ysbryd i ymddangos fel y gwas bach a datguddio'i gyfrinach.
Credai Modryb yn gadarn yng ngallu y "dyn cyfarwydd", a chredai y gallai godi cythreuliaid. Dwedai y byddai llyfr arbennig gan bob "dyn cyfarwydd", i'r pwrpas. Byddai llawer o'r llyfrau ar gael ar un adeg meddai, a byddai codi cythreuliaid yn un o ddiddordebau'r ardal. Un waith, meddai, anfonwyd gwas bach i 'mofyn benthyg llyfr codi cythreuliaid. Siarswyd ef i beidio, ar gyfrif yn y byd, agor y llyfr. Ar ôl aros ei ddychweliad am amser, aeth dau neu dri o'r llanciau i'w gyfarfod. Cawsant y gwas bach mewn cae cyfagos, ynghanol llu o goblynod. 'Roedd y gwas bach, ar ôl agor a darllen y llyfr, wedi galw ar y coblynod i ymddangos. Wedi iddynt ymddangos 'roedd yn ofynnol iddo ateb ei cwestiwn, "Beth a wnawn"? neu byddent yn ymosod arno. 'Roedd y gwas bach newydd ateb "paffiwch", ond cyn i ddim niwed ddigwydd, daeth y "gŵr cyfarwydd".
Dyma stori arall debyg. Ymgymerodd rhyw ddyn a chlirio cae yn llawn drain ac eithin mewn diwrnod. Addawodd ffarmwr oedd yn berchen y tir ei dalu'n hael. Daeth morwyn fach y ffarm a brecwast iddo i'r cae. Yna'r eisteddai y dyn, heb unrhyw arwydd gwaith o'i gwmpas. Daeth amser cinio a chafodd y forwyn fach ef yn yr un fan yn union, heb iddo fod wedi symud bys. Penderfynodd y ffarmwr fynd a'i de iddo ei hunan er mwyn gweld pa faint o waith oedd yn ofynnol cyn i'r dyn orffen. Pan gyrhaeddodd y cae, er ei fraw, gwelodd fod y cae yn llawn o goblynnod bach wrthi'n brysur, yn codi ac yn tynnu'r drain a'r eithin a'u gosod yn un twmpath mawr. Pan ddaeth y ffarmwr i'r cae trodd y twmpath yn fflamau coch heb neb yn ei gyffwrdd, a diflannodd y coblynnod. Diwedd y stori fyddai "Mae'n reit wir, mae llecyn du ar y cae hyd heddiw, yn y