fan lle y bu'r goelcerth".
Cefais stori dda gan Richard fy mrawd am "ŵr cyfarwydd". Yn agos i Ysbyty Ifan, 'roedd hen wraig yn byw ar ffarm ar ei phen ei hun. Bu farw ei gŵr flynyddoedd yn gynt, a chollodd ei mab pan yr oedd ef yn weddol ifanc. Credai mai gŵr cyfarwydd oedd y mab pan oedd yn fyw. 'Roedd ei lyfrau ganddi, meddai, mewn cist fawr—llyfrau codi cythreuliaid. Byddai y mab yn darllen y llyfrau hyd oriau mân y bore. Ceisiodd cyfaill Richard gael cip olwg ar y llyfrau. Gwrthododd yr hen wraig am beth amser am ei bod yn beryglus edrych arnynt, ond o'r diwedd, gadawodd iddo agor y gist a darllen y llyfrau. I'w fawr syndod cafodd mai llyfrau Lladin a Saesneg oeddynt i gyd, ac i gyd ar ddiwinyddiaeth. Ymddengys fod y llanc a'i fryd ar fynd yn Berson, a dyna bwrpas y llyfrau ac nid codi cythreuliaid!
Gwahaniaethai Modryb rhwng "witsio" gan hen wraig i rwystro'r llaeth rhag corddi neu'r uwd rhag berwi ac felly yn y blaen, a'r "witsio" fyddai'n effeithio ar berson dyn. Credai y gallai dyn gyflwyno malais a chenfigen yn erbyn un arall, a'i niweidio, weithiau hyd angau. Credai'n gadarn mewn "ysbryd dyn byw"—ysbryd dyn yn symud o'i gorff er dylanwadu ar ddyn arall, neu i gyfleu neges i rywun. Dyma enghraifft a roddai o "ysbryd dyn byw" yn cyflwyno neges iddi.
Aeth ei gŵr, John Price, i Awstralia i'r gwaith aur yn Ballarat i geisio gwneud ei ffortiwn. 'Roedd Modryb i'w ddilyn os byddai'n llwyddiannus. Rhyw ddiwrnod bu ffrae rhwng dau o'r gweithwyr, rhuthrodd un i'r efail lle y gweithiai John Price, cipiodd far o haearn a tharawodd y llall a'i ladd. Ffôdd John Price am ei fywyd rhag iddo gael ei feio. Breuddwydiodd Modryb Ann yr hanes i gyd, ac yn ôl llythyr a gafodd gan John Price, daeth y breuddwyd yr un adeg a bu digwydd yr anffawd. Felly, meddai Modryb, "ysbryd" John Price ddaeth a'r neges iddi. Byddai ganddi lawer stori gyffelyb i ddangos fel y clywodd ei Nain yn galw arni pan yr oedd yn wael mewn ardal bell oddiyno.