Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Siaced Fraith.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII
SION CATRIN

ROEDD yn nhref Llanrwst, fel mewn aml hen dref o'r fath flynyddoedd yn ôl, lawer o gymeriadau hynod, yn enwedig yn Heol Scotland, slym y dref, rhai wedi dod yno o ardaloedd eraill, a llawer wedi eu geni a'u magu yno. 'Roedd crwydro'r wlad a chardota yn beth cyffredin iawn. Crwydrai rhai'r wlad heb angen o gwbl—crwydro am mai dyma'r ffordd o fyw a oedd wrth eu bodd. Crwydryn o'r fath oedd Sion Catrin. Hyd y cofiaf brodor wedi ei eni a'i fagu yn y dref oedd. Cerddai ffermydd y wlad a chai ddigon o fwyd ymhobman. Ni buasai Sion yn hapus o gwbl o dan drefniadau y Welfare State. Yr oedd crwydro yn ei waed ac yr oedd pawb yn barod i'w helpu. Gofalai siopwyr y dref am siwt i Sion pan fyddai angen, ac os oedd Sion yn gymeriad od, yr oedd ei wisg hefyd yn od. Byddai'n rhaid i'r siwt fod i drwch y blewyn fel y dewisai ef. I ddechrau yr oedd yn rhaid i'r defnydd fod o felfared llwyd golau. Ni welais ef erioed mewn unrhyw fath arall o siwt. Yr oedd yn ofynnol i goesau'r trowsus fod tua hanner llath yn rhy hir fel y gallai Sion eu troi i fyny lawer gwaith dros ei sodlau. Gwisgai gôt laes a phocedi mawr iddi ac yr oedd yn rhaid i'r llewys fod yn hir fel coesau'r trowsus er mwyn i Sion gael eu troi yn blygion. Gyda'r siwt ryfedd yma gwisgai het ffelt, yr un siap a het silc. Yr oedd yn rhaid i'r het, hefyd, fod yn rhy fawr. Deuai i lawr dros ei eiliau, yn wir ei glustiau yn unig fyddai'n ei chadw i fyny. 'Roedd ganddo ên hir, a chan nad oedd ganddo ddannedd yr oedd yr ên a'r trwyn bron a chyfarfod.

Yr oedd holl ffermwyr y wlad yn adnabod Sion Catrin, gan yr ymwelai â phob un yn ei dro. Fel pob crwydryn arall cai ddigon o fwyd; ni chai yr un crwydryn ei droi ymaith yn waglaw. Galwai'n Nhŷ Newydd, cartref fy nain, ar ei dro.