A dweud y gwir, un braidd yn anniolchgar oedd yr hen Sion; gwelai rhyw fai ar y bwyd—dim digon o fara, dim digon o fenyn. Collodd Nain ei thymer yn lân un tro, a dwedodd wrtho'n gwta am adael y bwyd os nad oedd wrth ei fodd. Monnodd Sion ac ni welodd Nain ef am y rhawg. Ond yn ôl y daeth yn y man, yn bur waraidd.
Arferai ofyn cwestiynau i hwn a'r llall, math o ddychmygion. Gwyddai pawb mai Sion yn unig oedd i roi'r ateb. Gofynnai i Nhad, "Pa sawl ystôl wyt ti'n feddwl wnai gyrraedd i'r Nefoedd"? Cymerai Nhad arno ddyfalu a mesur, nes i Sion fethu dal heb ateb, yn wên o glust i glust. "Wel, pe cai ti un ddigon hir fe wnai'r tro". "Ti" a "chdi" a ddywedai Sion wrth bawb, 'doedd ots yn y byd wrth bwy, Sgweiar Plas yr Abbey neu siopwr neu gyfaill. Mr. Elias oedd Sgweiar yr Abbey, dyn uchel iawn ei barch gan y tenantiaid a phawb yn yr ardal. Cai Sion groeso yn y Plas bob amser a llawnder o fwyd, a'i boccdi yn llawn yn dod oddiyno fel arfer. Dyna amcan pocedi mor fawr i'r gôt. Un tro pan oedd Sion yn dod o'r Plas, gwelodd ddillad wedi eu taenu ar y gwrych i sychu. Yn ei mysg sylwodd fod yno grys i Mr. Elias. Tynnodd Sion ei hen grys budr, gosododd ef ar y gwrych a "cheiniog fawr" arno i dalu am ei olchi, gwisgodd am dano grys glân Mr. Elias, ac i ffwrdd ac ef. Ymhen amser aeth ar ei dro eto i'r Plas. Pan gafodd Mr. Elias ar ddeall fod Sion yno, aeth ato, a rhoes gerydd digon hallt iddo am ddwyn ei grys. A meddai Sion, "Wel, os wyt ti mor brin, dyma fo iti", a dechreuodd ei dynnu oddiamdano. Ni chlywodd neb erioed Sion yn syrthio ar ei fai.
Âi Sion i bob angladd o fewn cyrraedd. Mynnai Sion yr hawl i daenu'r llen ddu dros yr arch. Buasai'n bechod anfaddeuol i neb arall wneud hynny. Wrth gwrs, cai ychydig o geiniogau am y gymwynas a rhan o'r wledd a ddarperid ar gyfer yr angladd. Un tro yr oedd angladd i fod ym Mhentrefoelas, a chan fod tŷ ymhell o'r fynwent anfonwyd i Lanrwst am wasanaeth hers y plwy. Er bod yn siwr o gyrraedd mewn pryd, gan fod un