i mi unwaith gyrraedd pen gallt y Garreg Gron, ni chofiaf i mi erioed gyfarfod yr un enaid byw ar y ffordd. Cerddwn mewn byd lle nad oedd ond myfi a'r defaid, ond ni ddaeth i'm meddwl erioed deimlo'n ofnus. Ar dywydd braf ni theimlwn y daith yn faich, ond gwahanol iawn y teimlwn ar dywydd garw. Byddai meddwl am y ffordd gartref ar ddiwedd y pnawn yn gosb.
Ac yn awr deuaf at ddiwrnod yr Egsam. Pan ddeffroais y bore hwnnw, gwelwn mai diwrnod anlwcus oedd o'm blaen. Yr oedd yn ddiwrnod stormus iawn, y glaw yn tywallt yn ddidrugaredd, a'r gwynt yn chwythu ac yn chwibanu. Syrthiodd fy nghalon i'm esgidiau wrth feddwl am ddringo dros Fwlch y Bedol. Ond rhaid oedd mynd. Ni chefais erioed siwrnai mor galed. Bu i'r gwynt fy nhaflu fwy nag unwaith, a phan gyrhaeddais yr ysgol yr oeddwn yn wlyb fel dafad, fel y dywedir.
Yr oedd y plant yno'n barod, yn eistedd yn y desgiau yn ddistaw fel llygod, ond golwg oer, rynllyd oedd arnynt oherwydd y gwlybaniaeth. Yr oedd arogl annymunol drwy'r ystafell yn codi o'r cotiau gwlyb yn sychu'n bentwr o gwmpas y tân. Mae'n ymddangos fod yr ysgolfesitr wedi anfon rhai o blant Bethel a Golan adref, gan fod y creaduriaid bach mor wlyb a phe buasent wedi eu trochi yn yr afon. Buasai'n greulondeb eu cadw drwy'r dydd yn yr ysgol yn y fath gyflwr, heb son am gwestiwn iechyd. Heblaw hyn, gan fod afon Dwyfor yn rhedeg hyd waelod y Cwm, ochr yn ochr a'r ffordd, yr oedd perygl iddi lifo dros ei glannau i'r ffordd a rhwystro i'r plant gyrraedd eu cartrefi. Yn ddiamau, ni allai yr ysgolfeistr wneud yn wahanol i'r hyn a wnaeth.
A dyna lle yr oeddym, y plant a minnau yn wlyb ac yn rhynnu; dim i'w wneud ond aros i'r Inspector gyrraedd. Cofiaf wrando ar sŵn y cloc yn tician, a'r gwynt a'r glaw yn chwipio yn erbyn y ffenestri ac yn ysgwyd y drws. Toc dyma'r gŵr mawr yn cyrraedd,—William Williams, yr Inspector, a'i gynorthwywr, rhyw Mr. Jones. Ni chofiaf i mi erioed weled William Williams mewn tymer dda, hyd yn oed ar ddiwrnod