Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

6. Pan ddaeth peiriannau newydd, bu raid cael lle iddynt heblaw yn y cartref, fel y caffai llawer o bobl weithio gyda'i gilydd. Fel hyn y daeth y ffatri i fod.

7. Tua'r un adeg agorwyd glofeydd yma a thraw ar hyd y wlad. Dechreuwyd gweithiau dur ac alcam.

8. Daeth y gweithwyr i fyw i'r ardal lle'r oedd y gwaith. Codwyd llu o dai yn ymyl ei gilydd.

9. Fel hyn y daeth rhai o'n trefi mawr i fod, megis Merthyr, Abertawe, Birmingham a Sheffield.

10. Gwneud arian oedd amcan y rhan fwyaf o'r meistri, mewn ffatri a glofa. Ni ofalent lawer am fywyd eu gweithwyr.

11. Gwnaent iddynt weithio'n galed iawn am arian bach. Yr oedd y