Crynodeb gweithredol
1. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu cynigion y Llywodraeth i gyflwyno system ar gyfer cadw dogfennau ewyllys mewn ffurf ddigidol, yn hytrach na’r system bresennol o gadw’r holl ddogfennau papur gwreiddiol a gyflwynir mewn ceisiadau am brofiant (yr awdurdod cyfreithiol ar gyfer gweinyddu ystad yr ymadawedig), ac mae’n gofyn am farn ynglŷn â’r cwestiwn cysylltiedig a ddylid newid yr hawl i archwilio ewyllysiau sy’n cael eu storio.
2. O ran ffurf ewyllysiau sy’n cael eu storio, mae’r system bresennol yn golygu costau storio a chadw sylweddol sy’n codi bob blwyddyn ac sy’n anodd iawn eu cyfiawnhau pan fo cadw mewn ffurf ddigidol yn cynnig dewis arall yr un mor effeithlon, ond llawer mwy buddiol o safbwynt economaidd ac amgylcheddol.
3. Mae’r papur ymgynghori yn gofyn am farn ynglŷn â’r egwyddor o newid i ddull digidol yn unig o gadw dogfennau ewyllys, ac os bydd hynny’n digwydd, a ddylid dal i gael cyfnod cadw ar gyfer y dogfennau ewyllys papur gwreiddiol.
4. Mae’r ddogfen hefyd yn gofyn am farn ynglŷn â’r cwestiwn a ddylai’r egwyddor honno beidio â bod yn berthnasol i bobl enwog a hanesyddol, ac a ddylid cadw eu dogfennau ewyllys papur gwreiddiol am byth.
5. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn i’r ymgyngoreion sut y dylid diwygio’r ddeddfwriaeth os penderfynir newid i ddull digidol yn unig o gadw ewyllysiau. Y ddau ddewis yw newid drwy Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (gan ddefnyddio isddeddfwriaeth) neu ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn Bil gerbron y Senedd.
6. Mae’r Llywodraeth yn croesawu barn defnyddwyr llysoedd, y proffesiynau cyfreithiol ac archifol, pob ymarferydd profiant arall a haneswyr, yn ogystal â’r farnwriaeth ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.