Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storio a chadw dogfennau ewyllys gwreiddiol. Ymgynghoriad.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyflwyniad

7. Mae’r papur hwn yn amlinellu at ddibenion ymgynghori y cynigion i ddiwygio deddfwriaeth fel mai dim ond fersiynau wedi’u digideiddio o ddogfennau gwreiddiol y rhan fwyaf o ewyllysiau fydd yn cael eu cadw am byth, a’r fersiynau papur am gyfnod cyfyngedig yn unig, ac yn gofyn am farn ynglŷn â’r egwyddor honno ac am faint o amser y dylid storio ewyllysiau papur. Byddai’r diwygiadau yn newid yr ymarfer costus presennol o gadw’r holl ewyllysiau papur gwreiddiol am byth.

8. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn cwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â’r gyfraith bresennol sy’n ymwneud â’r hawl i archwilio ewyllysiau.

9. Anelwyd yr ymgynghoriad, yn fwyaf arbennig, at y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ymarferwyr ymddiriedolaethau, ystadau a phrofiant. Oherwydd y pwnc, bydd hefyd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn ehangach, gan y bydd y rhan fwyaf o bobl rywbryd neu’i gilydd yn ymwneud ag ewyllys, oherwydd eu bod yn gwneud un neu oherwydd bod ganddynt ddiddordeb mewn un.

10. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 10 wythnos a bydd yn dod i ben ar 23 Chwefror 2024.

11. Bydd papur ymgynghori Saesneg ar gael yn www.gov.uk/official-documents.

12. Nid oes Asesiad Effaith wedi’i baratoi ar gyfer y papur ymgynghori hwn gan nad yw’r cynigion yn debygol o arwain at gostau ychwanegol nac arbedion i fusnesau, elusennau na’r sector gwirfoddol. Er hyn, byddant yn arbed arian i’r sector cyhoeddus (Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF). Mae’r costau a’r arbedion posibl yn dibynnu ar yr opsiynau diwygio a roddir ar waith, fel y maent wedi’u hamlinellu yn adran opsiynau ar gyfer diwygio y papur hwn (tudalennau 13-16).

13. Anfonir copïau o’r papur ymgynghori at y canlynol:

Cymdeithas y Cyfreithwyr
Cyngor y Bar
Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol
STEP – Cymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau
Cyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig
Meistr y Gallueddau
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr