Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storio a chadw dogfennau ewyllys gwreiddiol. Ymgynghoriad.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y fframwaith cyfreithiol presennol

15. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud ag adneuo a chadw ewyllysiau gwreiddiol i’w gweld yn Neddf Uwchlysoedd 1981 (Deddf 1981). Mae Adran 124 yn nodi:

Dylid adneuo a chadw pob ewyllys wreiddiol a dogfennau eraill sydd dan reolaeth yr Uchel Lys yn y Brif Gofrestrfa neu mewn unrhyw gofrestrfa brofiant y dosbarth yn y cyfryw leoedd y darperir ar eu cyfer mewn cyfarwyddiadau a roddir yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005; a bydd unrhyw ewyllysiau neu ddogfennau eraill a adneuir yn y fath fodd, yn amodol ar reolaeth yr Uchel Lys a rheolau profiant, yn agored i’w harchwilio. (Cyfieithiad – mae’r fersiwn gwreiddiol ar gael yn Saesneg yn unig.)

16. Mae’r hawl gyffredinol i gael mynediad at ddogfennau ewyllys yn cael ei hamodi gan Reol 58 yn y Rheolau Profiant Annadleuol:

Ni fyddai ewyllys wreiddiol neu ddogfen arall y cyfeirir ati yn adran 124 o’r Ddeddf yn agored i’w harchwilio pe bai archwiliad o’r fath, ym marn cofrestrydd, yn annymunol neu’n amhriodol mewn ffordd arall. (Cyfieithiad – mae’r fersiwn gwreiddiol ar gael yn Saesneg yn unig.)

17. Mae’r ddeddfwriaeth (Adran 125 o Ddeddf 1981) hefyd yn nodi y gellir cael copïau o ewyllysiau gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLITEF) drwy dalu ffi.

18. Gellir crynhoi’r sail resymegol dros ganiatáu i’r cyhoedd archwilio ewyllysiau yn fyr iawn fel a ganlyn:

a. I ddarparu modd i’r sawl sydd â diddordeb yn ystad yr ymadawedig ganfod a yw’n fuddiolwr, neu i gredydwyr ddiogelu eu hawliau.

b. I ddarparu cyfle i archwilio cyfansoddiad yr ewyllys a llofnod yr ewyllysiwr, a all fod yn dystiolaeth neu’n sail i her yn ymwneud â dilysrwydd ewyllys—er enghraifft oherwydd honiad o dwyll neu ddylanwad amhriodol.

c. I ddarparu sail i unrhyw her nad yw’r ewyllys a ddefnyddiwyd fel prawf ar gyfer profiant (yr awdurdod cyfreithiol i weinyddu ystad) yn ddilys gan nad yr ewyllys hon yw’r un ddiweddaraf a wnaethpwyd gan yr ewyllysiwr, neu ei bod yn anghyflawn (er enghraifft oherwydd nad yw’n cynnwys codisil, dogfen gyfreithiol sy’n newid ewyllys).

d. I ddarparu’r sail i fuddiolwyr a phartïon sydd â diddordeb alw ysgutorion ac ymddiriedolwyr i gyfrif am weinyddu’r ystad neu ymddiriedolaeth gysylltiedig, ac i helpu i sicrhau bod bwriadau ewyllysiwr yn cael eu gweithredu.