Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storio a chadw dogfennau ewyllys gwreiddiol. Ymgynghoriad.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

19. Mae gwreiddiau’r fframwaith cyfreithiol presennol yn dyddio’n ôl i ddiwygiadau yn y 19eg Ganrif, a arweiniodd at Ddeddf Llys Profiant 1857. Trosglwyddodd y ddeddfwriaeth honno y cyfrifoldeb am roi profiant oddi wrth y llysoedd eglwysig i Lys Profiant newydd, a thrwy hynny creodd system fodern y Brif Gofrestrfa a Chofrestrfeydd Profiant y Dosbarth. Darparodd y ddeddfwriaeth hon system ar gyfer adneuo ewyllysiau a’u harchwilio.

20. O ganlyniad, mae GLITEF yn cadw ewyllysiau sy’n dyddio’n ôl i 1858 pan sefydlwyd y Brif Gofrestrfa. Cedwir ewyllysiau cyn 1858, os o gwbl, gan yr Archifau Gwladol neu sefydliadau eraill (mae cyngor ynglŷn â gweld ewyllysiau cynharach i’w weld ar wefan yr Archifau Gwladol: https://www.nationalarchives.gov.uk/help-with-yourresearch/research-guides/wills-or-administrations-before-1858/).

21. Mae ewyllysiau yn ddogfennau cwbl breifat nes byddant yn cael eu ‘profi’ drwy’r broses o roi profiant. Ar ôl hynny maent ar gael i’w harchwilio gan y rhai sy’n cofrestru ac yn talu’r ffi angenrheidiol i GLITEF.

22. Fel y nodwyd ym mharagraff 16, mae’r hawl i archwilio wedi’i hamodi a gellir ei gwneud yn anghymwys. Cyfeirir at hyn fel cais i ‘selio’ ewyllys ac mae angen i farnwr neu gofrestrydd profiant gytuno y byddai ‘archwiliad o’r fath yn annymunol neu’n amhriodol’. Un enghraifft fyddai lle mae ewyllys yn nodi cyfeiriad personol cyfrinachol a allai roi diogelwch personol yn y fantol (er enghraifft rhywun sydd ar gynllun diogelu tystion). Ar hyn o bryd nid oes canllawiau ffurfiol yn nodi sut y dylid ymarfer y disgresiwn hwn.

Cwestiynau
Cwestiwn 1: A ddylid cadw’r gyfraith bresennol sy’n darparu ar gyfer archwilio ewyllysiau?

Cwestiwn 2: A oes unrhyw ddiwygiadau y byddech yn eu hawgrymu i’r gyfraith bresennol sy’n galluogi archwilio ewyllysiau?