Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storio a chadw dogfennau ewyllys gwreiddiol. Ymgynghoriad.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y ddadl dros ddiwygio

Diwygio’r egwyddor o gadw ewyllysiau papur gwreiddiol

23. Mae nifer o resymau dros gynnig diwygiadau yn y maes hwn. Y prif ffactor yw cost uchel iawn cadw’r holl ewyllysiau papur gwreiddiol a’r dogfennau ategol a gyflwynir mewn ceisiadau profiant. Amcangyfrifir bod hyn yn costio tua £4.5 miliwn y flwyddyn a bydd y costau’n dal i godi wrth i nifer y dogfennau sy’n cael eu storio a chostau gweithredol gynyddu’n flynyddol. Trefnir y gwasanaethau hyn drwy gontract allanol, sy’n ychwanegu mwy o gymhlethdod a baich ariannol bosibl, oherwydd pe bai angen newid cyflenwyr byddai costau sylweddol yn gysylltiedig â symud llawer iawn o ddeunydd ffisegol o un safle i un arall dan amodau wedi’u rheoli.

24. O ystyried y gost a’r gofynion ffisegol sy’n gysylltiedig â storio cymaint o ddogfennau papur, y cwestiwn sy’n codi yw a oes angen cadw’r dogfennau hyn mewn ffurf bapur yn amhenodol, ynteu a fyddai copi digidol o ewyllys yn gwneud y tro ac yn gyfwerth o safbwynt cyfreithiol. Mae’r capasiti i wneud a chadw copïau digidol ar gael yn barod. Ers 2021, mae copïau digidol o ewyllysiau a dogfennau ategol wedi’u gwneud ym mhob cais newydd, boed ar-lein neu beidio. Mae hynny wedi bod yn gwbl foddhaol i ddefnyddwyr, ac mae wedi arwain at amheuaeth a oes angen cadw’r fersiynau gwreiddiol mewn ceisiadau newydd.

25. Pe baem yn newid i storio copïau digidol yn unig o geisiadau profiant newydd, ni fyddai costau storio yn codi mor gyflym, ond gan fod yr ewyllysiau sy’n cael eu storio ar hyn o bryd yn dyddio’n ôl cyn belled ag 1858, a chan mai copïau papur fydd y rhan fwyaf o’r ewyllysiau am beth amser eto, byddai’r costau’n dal yn uchel. Fodd bynnag, ers 2021, yn achos ewyllysiau hŷn, pan fydd cais am gopi wedi’i dderbyn, mae fersiwn digidol wedi’i wneud mewn ymateb i’r cais hwnnw. Mae hynny hefyd wedi profi’n foddhaol. Felly, gellid cyflwyno rhaglen dreigl hefyd i ddigideiddio pob ewyllys hŷn, gan ddod â’r costau’n sylweddol is na’r costau presennol.

26. Yn ychwanegol at hyn rhaid ystyried cyd-destun ehangach rhaglen ddiwygio GLlTEF ar gyfer moderneiddio gwasanaethau llysoedd drwy wneud mwy o ddefnydd o brosesau digidol ar gyfer ceisiadau a chofnodion llys. Mae’r Llywodraeth yn credu bod system ddiwahân, sy’n seiliedig ar storio cofnodion papur yn barhaol, yn anghyson ag anghenion y system gyfiawnder o safbwynt effeithlonrwydd ac economaidd, ac yn anghyson â’r rhaglen ddiwygio hon.

27. Yn ogystal, mae’r Llywodraeth yn credu y bydd gan gopi digidol o’r ewyllys yr un capasiti â’r ewyllys bapur i sefydlu bwriad yr ewyllysiwr. O ganlyniad i’r datblygiadau aruthrol ym maes technoleg yn ystod y blynyddoedd diweddar gall copïau digidol o