ddogfennau gwreiddiol fod yn fanwl iawn, a bydd pob marc perthnasol ar y gwreiddiol yn cael ei gadw yn y fersiwn digidol. Er enghraifft, mae llofnodion a nodiadau a chywiriadau ar ymyl tudalen i’w gweld yr un mor hawdd ar yr ewyllys ddigidol. O ganlyniad bydd pob parti a llys fel ei gilydd yn gallu dibynnu ar gopïau digidol o ewyllysiau i herio dilysrwydd yr ewyllys honno neu ewyllys arall, yn union fel y byddent pe baent yn dibynnu ar yr ewyllys bapur.
28. Fodd bynnag, er bod cywerthedd ewyllysiau papur a digidol at ddibenion profiant yn ymddangos yn glir i’r Llywodraeth, ac o ganlyniad, mewn egwyddor, nad oes angen cadw copïau papur, mae’n cydnabod ei bod yn bosibl, yn y lle cyntaf, y bydd gan deulu’r ewyllysiwr berthynas emosiynol â’r dogfennau gwreiddiol, ac yn ail, yn niffyg term gwell, y gallai cymdeithas fod yn cadw perthynas emosiynol â materion profiant. 29. O ran yr agwedd gyntaf, gallai hynny godi, er enghraifft, o ganlyniad i farn ewyllysiwr ynglŷn â pherthnasoedd personol iawn i egluro dosbarthiad, a chan fod y farn yn dod ar ôl ei farwolaeth, mae’n cael ei gweld fel geiriau olaf yr unigolyn wrth y rhai sy’n ei oroesi. O ran yr ail, efallai fod hynny’n cael ei adlewyrchu orau gan y ffaith fod ewyllysiau papur wedi bod yn cael eu cadw’n ddi-dor er 1858, sef dros 160 o flynyddoedd, er gwaetha’r ffaith y byddai’r capasiti i herio ewyllys, o ran yr angen am dystion a thystiolaeth arall, wedi dod i ben mae’n debyg ar ôl ffracsiwn bach iawn o’r cyfnod hwnnw.
30. Hyd yn oed os yw hynny’n wir, mae’r Llywodraeth hefyd yn credu bod gwerth emosiynol dogfennau gwreiddiol o’r fath i berthnasau ac i gymdeithas yn debygol o leihau dros gyfnod, ac yn bwysig iawn, nid oes angen ystyried y cwestiwn o gadw fersiwn digidol o ewyllysiau am byth ar ei ben ei hun. Gallai’r dull gweithredu hwnnw fodoli ochr yn ochr â pholisi ar gadw’r dogfennau papur gwreiddiol am gyfnod cyfyngedig. Os hynny, rhaid ystyried faint ddylai’r cyfnod hwnnw fod.
31. Heb os nac oni bai, bydd safbwyntiau amrywiol yn berthnasol ynglŷn â hyd y cyfnod hwnnw, ac mae’r ymgynghoriad hwn yn trafod y mater hwn yn llawnach isod, ond, fel enghraifft, mae’r Llywodraeth yn credu mai un safbwynt arwyddocaol yw ystyried yr ewyllys papur gwreiddiol fel rhan o gofnod llys ffurfiol. O ganlyniad, gellid penderfynu ynglŷn â’r cyfnod priodol drwy edrych ar bolisïau ac arferion eraill mewn cysylltiad â chofnodion llys eraill. Mae’r cyfnodau ar gyfer cadw cofnodion llys wedi’u hamlinellu’n fanylach isod, ond fel enghraifft, mewn achosion ymddiriedolaethau ac ecwiti yn fwy cyffredinol cedwir cofnodion llys am 6 blynedd.
32. Er na ellir gwneud cymhariaeth uniongyrchol, gan y bydd llawer o’r cofnodion hynny mewn ffurf ddigidol yn unig, ac nid yn eu ffurf wreiddiol, ac na fyddant yn cynnwys yr un teimlad arwyddocaol ag ewyllysiau a materion profiant yn gyffredinol, mae’r Llywodraeth yn credu ei fod yn cynnig syniad ynglŷn â’r cyfnodau byrraf y gellid cadw