ewyllysiau papur gwreiddiol, er y bydd angen gwneud y gwir gyfnod yn hwy drwy gyfeirio at ffactorau eraill.
33. O ganlyniad, mae’r Llywodraeth o’r farn fod dadl gref dros ddeddfu i ddiwygio’r gofyniad i gadw copïau papur yn unig, fel bod modd cadw copïau digidol yn lle hynny. Er hyn byddai’n cyflwyno polisi i gadw’r ewyllysiau papur hynny am nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, rydym yn gofyn am farn am bryderon naill ai ynglŷn â’r egwyddor neu ynglŷn â manylion y dulliau posibl o gyflawni’r polisi hwnnw.
| Cwestiwn 3: A oes unrhyw resymau pam y dylai’r Uchel Lys storio dogfennau ewyllys papur gwreiddiol yn barhaol, yn hytrach na dim ond cadw copi wedi’i ddigideiddio o’r deunyddiau hynny?
Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno y gellir dinistrio dogfennau papur gwreiddiol (o 1858 ymlaen) ar ôl cyfnod penodol (ac eithrio yn achos unigolion enwog)? A oes dewisiadau eraill, yn ymwneud â’r sector cyhoeddus neu breifat, y gallwch eu hawgrymu yn lle eu dinistrio? |
Dull o ddiwygio’r ddeddfwriaeth
34. Pe bai’r egwyddor o ddiwygio (mewn cysylltiad â storio dogfennau ewyllys gwreiddiol yn barhaol) yn cael ei derbyn, mae’r Llywodraeth o’r farn y gellid gwneud hynny drwy is-ddeddfwriaeth dan Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000. Bwriadwyd y Ddeddf hon, yn rhannol, er mwyn sicrhau ateb syml i ddiwygio deddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol, fel bod modd cyflawni gofynion cyfreithiol yn ymwneud â dogfennau drwy fersiynau digidol. Neu, gellid cyflawni hynny drwy gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio Deddf 1981.
35. Barn amodol y Llywodraeth yw mai’r dull mwyaf priodol, gan ei fod yn effeithiol ac yn gyflym, yw drwy ddefnyddio’r pwerau yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000. Mae’r Ddeddf hon yn rhoi pŵer i’r Gweinidog priodol addasu deddfwriaeth at ddiben ‘awdurdodi neu hwyluso’r defnydd o gyfathrebiadau electronig neu storio electronig’ (is-adran 8(1)).
36. Rhaid cael sail i ddefnyddio’r pwerau hyn, a dylai pwrpas y diwygio gyfateb i’r meini prawf yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000. Mae’r Llywodraeth yn credu y byddai’r cynnig hwn i gadw dogfennau ewyllys digidol yn cyfateb i feini prawf ‘cadw, cynnal neu ddiogelu . . . unrhyw adroddiad, cofnod, hysbysiad, offeryn neu ddogfen arall’ (is-adran 8(2)(e)).