37. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn nodi na all y Gweinidog perthnasol ddefnyddio’r pwerau hyn oni bai ei fod ef neu hi o’r farn y byddai cyfathrebiadau neu storio electronig yn ‘ddim llai boddhaol’ na’r dewis arall (yn yr achos hwn cadw dogfennau papur) (is-adran 8(3)).
38. Mae’r Llywodraeth o’r farn fod darpariaethau Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 felly ar gael i’w defnyddio ar gyfer y polisi hwn ac yn cynnig ymarfer y pwerau hyn drwy ddiwygiad cyfyng wedi’i gyfyngu i sicrhau y gellid bodloni’r gofyniad i gael ewyllysiau ar gael i’w harchwilio â chopi digidol.
39. Dewis arall fyddai diwygio Deddf 1981 drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Er byddai hyn yn anos ac y gallai gymryd mwy o amser (o ran anawsterau sicrhau cyfrwng deddfwriaethol addas ac amser Seneddol) byddai’n golygu bod modd cynnwys materion eraill sydd ynghlwm wrth y cofnodion digidol lle na ellir eu cynnwys dan Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000. Un mater posibl fyddai unrhyw angen i ddiwygio yn ehangach y gyfraith ar yr hawl i archwilio ewyllysiau yn fwy cyffredinol, fel y nodir uchod.
40. Yn ychwanegol at hyn, byddai’r llwybr deddfwriaeth sylfaenol hefyd yn darparu mwy o gyfle ar gyfer craffu Seneddol a dadl na phe defnyddid is-ddeddfwriaeth.
| Cwestiwn 5: A ydych yn cytuno bod copïau papur a chopïau digidol o ewyllysiau yn gyfwerth fel bod modd defnyddio Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000?
Cwestiwn 6: A oes unrhyw faterion eraill sy’n uniongyrchol gysylltiedig â chadw ewyllysiau digidol neu bapur nad ydynt yn cael eu cynnwys gan y bwriad i ymarfer y pwerau yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 y credwch bod eu hangen? Cwestiwn 7: Os bydd y Llywodraeth yn mynd ar drywydd cadw yn barhaol gopi digidol yn unig o ddogfen ewyllys, a ddylai geisio diwygio’r ddeddfwriaeth sylfaenol drwy gyflwyno Bil ynteu wneud hynny dan Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000? |