Opsiynau ar gyfer diwygio
41. Mae’r Llywodraeth o’r farn fod angen ystyried materion penodol yn ymwneud â natur y diwygio. Mae’r adran hon yn amlinellu’r materion hynny a’r opsiynau sydd ar gael ar eu cyfer.
Cyfnod cadw ar gyfer dogfennau ewyllys gwreiddiol
42. Y cwestiwn sy’n codi ar unwaith, os derbynnir yr egwyddor y bydd y llysoedd yn cadw dogfennau ewyllys gwreiddiol mewn ffurf wedi’i digideiddio, yw a ddylid cadw’r ddogfen ewyllys bapur wreiddiol yn gyffredinol, ac am faint o amser?
43. Fel yr eglurwyd uchod, er bod y Llywodraeth o’r farn fod ewyllysiau papur a chopïau digidol yn gyfwerth, mae’n cydnabod y gallai’r cyhoedd fod yn bryderus bod y system yn newid ar unwaith o gadw ewyllysiau papur i gadw fersiynau digidol yn unig. O ganlyniad, mae’r Llywodraeth o’r farn, er dylid newid y gyfraith i ganiatáu cadw fersiynau digidol yn lle ewyllysiau papur gwreiddiol, y dylid cael polisi hefyd i gadw’r ewyllysiau papur hynny, a dogfennau eraill o bosibl fel y nodir isod, am gyfnod penodol.
44. Er mwyn nodi’r cyfnod hwnnw, mae’r Llywodraeth wedi ystyried cymaryddion amrywiol mewn cofnodion llysoedd a lleoedd eraill. Mae’n bwysig cofnodi wrth gwrs nad ydynt yn gymaryddion uniongyrchol, gan y bydd llawer o’r cofnodion hynny yn cael eu cadw mewn ffurf ddigidol yn unig, ond y gallent fod o gymorth er mwyn nodi beth ddylai fod yn gyfnod sylfaenol ar gyfer polisi yn ymwneud â chadw’r ewyllys bapur wreiddiol cyn rhoi sylw i gwestiynau yn ymwneud â theimladau.
45. Mae’r cyfnodau cadw ar gyfer dogfennau llys eraill wedi’u crynhoi yn y tabl isod. Mae’r cyfnodau’n amrywio yn ôl angen busnes, ac nid oes cyfnod cadw swyddogol ar gyfer pob math o achos/cofnod llys.
| Math o achos/dogfen | Cyfnod cadw |
|---|---|
| Ffurflenni cais am brofiant | 2 flynedd |
| Etifeddiaeth—Hawliadau Darpariaeth Deuluol | 3 blynedd |
| Achosion Ymddiriedolaethau ac Ecwiti (Uchel Lys, Siawnsri) | 6 blynedd |
| Achosion Siawnsri | 7 mlynedd |
| Achosion Methdaliad | 20 mlynedd |
| Dyfarniad Nisi a Dyfarniad Absoliwt (cofnodion ysgariad swyddogol) | 100 mlynedd |