52. Mae’r Llywodraeth yn agored i safbwyntiau ehangach ynglŷn â’r meini prawf y dylid eu mabwysiadu mewn cysylltiad â nodi ewyllysiau y dylid eu cadw’n barhaol. Byddai hyn hefyd yn gymwys i ewyllysiau sy’n cael eu cadw’n barod (er enghraifft, ewyllys Charles Darwin), ac yn cael ei bennu cyn rhaglen ddigideiddio ac yna dinistrio dogfennau ewyllys papur gwreiddiol. Mae’n bosibl y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus pellach, mwy cyfyngedig, ar y meini prawf/canllawiau ar gyfer dynodi ewyllysiau enwog maes o law.
| Cwestiwn 9: A ydych yn cytuno â’r egwyddor y dylid cadw ewyllysiau pobl enwog yn y ffurf bapur wreiddiol ar gyfer diddordeb hanesyddol?
Cwestiwn 10: A oes gennych unrhyw awgrymiadau cychwynnol ynglŷn â’r meini prawf y dylid eu mabwysiadu ar gyfer nodi pobl enwog/hanesyddol y dylid cadw eu dogfen ewyllys bapur wreiddiol yn barhaol? |
Cyfnod cadw ar gyfer dogfennau eraill a gyflwynir ar gyfer profiant i gefnogi ewyllysiau
53. Mater arall yw ystod y dogfennau sy’n cael eu cadw ar hyn o bryd gan y Cofrestrfeydd Profiant. Mae’r darn a ganlyn o’r Atodlen Cadw a Gwaredu Cofnodion ar gyfer Cofrestrfeydd Profiant[1] yn dangos graddfa ac ystod y dogfennau sy’n cael eu storio yn barhaol ar hyn o bryd. Mae’n amlinellu ystod eang o ddogfennau ategol a allai gael eu cyflenwi gyda cheisiadau profiant, ond o ran gofynion deddfwriaethol ar gyfer archwilio cyhoeddus, dim ond ewyllysiau a chodisiliau[2] y mae angen eu cadw. O ganlyniad, mae’r ddadl dros ddiwygio’r modd y caiff ewyllysiau eu storio yn wahanol i’r dull ar gyfer storio dogfennau ategol a gallai’r dull gweithredu ar gyfer y ddau fod yn wahanol.
Cofnodion unigryw a gedwir gan y Cofrestrfeydd Profiant
Disgrifiad o gofnodion
a) Ewyllysiau a grantiau cynrychiolaeth ers 1858
b) Achosion y rhoddwyd y gorau iddynt
c) Ffurflenni Ymwrthod
d) Gwysion
e) Profiant wedi’i wrthod
f) Gwysion i roi tystiolaeth mewn llys (subpoenas)
- ↑ https://www.gov.uk/government/publications/record-retention-and-disposition-schedules
- ↑ Mae codisil yn ddogfen sy’n gwneud ychwanegiad neu newid i ewyllys ac mae angen yr un prosesau ffurfiol ag wrth wneud ewyllys (e.e., llofnodi a thystio).