Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Polisi cadw: Cadw’r canlynol yn barhaol:
- Ewyllysiau a grantiau cynrychiolaeth (gan gynnwys recordiadau fideo o lofnodion wedi’u tystio)
- Datganiadau o Wirionedd
- Codisiliau
- Ymwrthodiadau (dirymiadau)
- Copi cymen o brofiant
- Atwrniaethau (neu bŵer cydsynio)
- Rheswm dros oedi
- Addasu grant
- Pob achos llys genedigaeth, marwolaeth a phriodas (ysgaru, mabwysiadu, ac yn y blaen)
- Gweithred newid enw
- Affidafidau ategol a datganiadau tystion
- Rhestr eiddo a chofnod o ystadau
- Gorchymyn domisil
- Ewyllysiau ffug a gwaith papur cysylltiedig
- Copïau notarïol neu swyddogol o ewyllysiau tramor
- Copïau swyddogol o ddogfennau ymddiried
- Copïau notarïol neu swyddogol o dystysgrifau etifeddu
Cadw pob dogfen arall am 50 mlynedd ac yna eu dinistrio.
54. Hoffai’r Llywodraeth glywed barn ynglŷn â’r cwestiwn a ellir gwneud achos arbennig dros gadw unrhyw rai o’r dogfennau ategol – er enghraifft, a ddylid cadw copïau notarïol o ewyllysiau tramor.
| 11: A ydych yn cytuno mai’r unig ddogfennau y dylai’r Cofrestrfeydd Profiant eu cadw’n barhaol yw ewyllysiau a chodisiliau o’r dogfennau a gyflwynwyd i gefnogi cais profiant? Eglurwch os gwelwch yn dda, os ydych yn amlinellu achos dros gadw unrhyw ddogfennau eraill. |