Meithrin cysylltiadau da
Rydym wedi ystyried yr angen i feithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol a’r rhai nad ydynt yn eu rhannu mewn cysylltiad ag effaith y cynigion hyn ar y ddyletswydd honno. Hoffem ddeall a oes materion cydraddoldeb eraill nad ydym wedi eu hystyried eto.
| Cwestiwn 12: A ydych yn cytuno ein bod wedi nodi’n gywir ystod a graddau’r effeithiau ar gydraddoldeb dan bob un o’r cynigion a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad hwn? Rhowch resymau a thystiolaeth o effeithiau eraill ar gydraddoldeb fel y bo’n briodol. |
Prawf Effaith ar yr Iaith Gymraeg
Rydym wedi ystyried a oes unrhyw ganlyniadau ieithyddol i’r diwygiadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir i bobl Cymru, ond wedi dod i’r casgliad nad oes rhai. Mae hyn oherwydd na fydd y diwygiadau yn arwain at newidiadau i’r system bresennol o archwilio a chael copïau o ewyllysiau gan fod hyn yn cael ei wneud drwy greu copi digidol.
Gellir gwneud y broses o wneud cais am brofiant drwy gyfrwng y Gymraeg.