Rhagair y Gweinidog
Mae ewyllysiau yn ddogfennau pwysig a phersonol iawn. Maent yn amlinellu dymuniadau unigolyn ynglŷn â sut y dylid dosbarthu ei eiddo a’i asedau ar ôl iddo farw, a dyma gyfle’r unigolyn i ddarparu ar gyfer aelodau annwyl o’r teulu a ffrindiau, a sicrhau bod elusennau y mae’n eu cefnogi yn cael rhoddion.
Mae ewyllysiau hefyd yn bwysig iawn o safbwynt cyfreithiol; maent yn sail ar gyfer rhoi awdurdod cyfreithiol (profiant) i ysgutorion i weinyddu ystad yr ymadawedig.
Mae cyfreithlondeb ewyllys yn fater y mae angen ei sefydlu. Fel arfer bydd hyn yn cael ei wneud gan y llysoedd wrth roi profiant, ond mewn nifer fach o achosion gall ewyllysiau gael eu herio. Er enghraifft, drwy honiad bod twyll wedi ei gyflawni, neu bod dylanwad amhriodol wedi ei roi ar y sawl a oedd yn gwneud yr ewyllys. Mae hynny’n golygu y bydd angen i’r llys wirio’r ewyllys a’i chadw rhag ofn y bydd rhywun yn ei herio.
Ar hyn o bryd nid oes cyfyngiadau yn nodi am faint o amser y bydd llysoedd yn cadw’r dogfennau ewyllys gwreiddiol hyn, ac maent yn cael eu cadw am lawer mwy na’r cyfnod pan ellid gwneud her. Mae gan GLITEF ewyllysiau gwreiddiol sy’n dyddio’n ôl i 1858. Mae costau mawr yn gysylltiedig â storio ewyllysiau yn barhaol fel hyn, ac mae’r costau hyn yn codi bob blwyddyn wrth i fwy o ddogfennau ewyllys gael eu hychwanegu.
Fy nghyfrifoldeb i yw herio’r system bresennol ar ran trethdalwyr ac edrych am ffyrdd mwy economaidd ac effeithlon o gadw ewyllysiau gwreiddiol, sy’n dal i ganiatáu i heriau gael eu penderfynu’n briodol. O ganlyniad, rwy’n awyddus i wybod beth yw barn pobl ynglŷn â’r cwestiwn a ddylid cadw ewyllysiau gwreiddiol am gyfnod penodol yn unig a newid ar adeg benodol i gadw fersiwn digidol yn unig.
Er 2021 mae GLITEF wedi bod yn creu copïau digidol o ewyllysiau newydd sy’n cael eu hadneuo, a byddai’n bosibl digideiddio ewyllysiau eraill sydd wedi eu storio gan ddilyn rhaglen dreigl. Byddai hyn yn ein galluogi i ddal i gadw ewyllysiau yn barhaol ac ar gael i’w harchwilio, ond fel copi digidol, ac o ganlyniad heb y costau mawr a wynebir ar hyn o bryd. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig diwygiadau i gefnogi’r dull gweithredu hwnnw ac yn gofyn am farn ynglŷn â’r cwestiwn a ddylid gwneud y diwygiadau hyn a pha fesurau diogelu ddylai gael eu cynnwys.
Byddwn yn falch o glywed eich barn ynglŷn â hyn wrth geisio cyflawni’r gwaith hwn.
Mike Freer AS
Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder