Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymladdodd Mathibe yn ddewr, ond yr oedd y rhan fwyaf o'i fyddin ar wasgar. Ni ŵyr neb sut y llwyddodd i ddianc, ond pan aeth y Bakwena i gyfrif y caethion ac i chwilio'r meirw nid oedd Mathibe yn eu mysg.

Rhannodd pennaeth y Bakwena ei fyddin yn ddwy. Un i ddychwelyd gyda'r da a'r caethion, a'r llall i chwilio am bennaeth y Bamangwato, oblegid gwyddai nad oedd y perigl drosodd hyd nes dyfod o hyd i'w gorff ef.

Rhedodd Mathibe nerth ei draed nes cyrraedd y goedwig fawr a chuddiodd

a chuddiodd yng nghysgod coeden fawr ganghennog.

Yr oedd wedi blino cymaint fel y cysgodd yn drwm er gwaethaf y perigl, hyd nes ei ddeffro gan leisiau dynion yn gweiddi ac yn curo'r gwelltglas â'u gwaywffyn. Meddyliodd Mathibe fod y diwedd wedi dyfod. Clywai un o'r milwyr yn dywedyd: "'Rwyn sicr ei fod yn rhywle yn ymyl. Ymladdodd mor galed trwy'r dydd, fel nad oes ganddo nerth i fyned ymhell."

Fe welai Mathibe ei hun yn cael ei arwain fel caethwas trwy Mokwena, prif ddinas y Bakwena, a phawb yn ei wawdio, ac yn y diwedd ei ladd mewn modd creulon a gwaradwyddus.