wedi torri ei ben. Rhaid i mi ei dysgu, oblegid os gall deryn bach fel dryw ei wneuthur, y mae'n sicr y gall y Symudliw sydd yn enwog trwy'r byd fel dawnsiwr. Y mae meddwl y gall pethau bach fel hyn ddawnsio'n well na ni yn wrthun." Aeth y Symudliw yn ei ôl i'r tŷ i gael cyllell. Pan ddaeth allan galwodd holl greaduriaid y goedwig i'w weled yn dawnsio heb ben fel y drywod, ond wrth gwrs yn well. Yna torodd ei ben gyda'r gyllell a syrthiodd i lawr
yn farw.
"Ha! ha!" meddai'r llewpard, "Ho! ho!" meddai'r elliffant!
"Go dda!" meddai'r giraff.
Eisteddodd holl greaduriad y goedwig i lawr i chwerthin yn braf, ac meddent: "Y mae balchter bob amser yn torri ei ben."
Meddai'r llyfant: "Chwarae teg i'r drywod bach: nid maint a nerth corfforol yw'r peth mawr wedi'r cyfan, ond synnwyr cyffredin." Aeth y llyffant i mewn i'r tŷ, a thynnodd y cyllyll bach a'r clychau oddiar yddfau'r plant. Wedi swper aethant i gyd i'r gwely ac meddai'r fam: "Diolch am y waredigaeth hon."
Testun yr ymddiddan yng nghyfarfod nesaf yr anifeiliaid ydoedd: "Beth yw medr a gallu a nerth?"