"Reit," ebr yntau. I ffwrdd â'r crwban. Wedi iddo gael chwarter milltir o gychwyn cychwynnodd y carw, ac yn fuan, buan daliodd y crwban ac aeth heibio iddo. "Na hidiwch Mr. Carw. Daliwch ati, 'rydw i yn eich dilyn; mi a'ch daliaf cyn hir," meddai'r crwban. Yna diflannodd yn y goedwig. Meddyliai'r carw ei fod wedi ei guro, ond er ei syndod gwelodd draw yn y pellter y crwban ar y blaen. "Wel," meddai wrtho'i hun, "'roeddwn yn meddwl ei fod ymhell ar ôl a dacw fe ar y blaen." Ymlaen ag ef nerth ei draed heibio i'r crwban eto, gan feddwl ei fod wedi ei guro eilwaith ond er ei syndod gwelodd ef cyn hir ymhell ar y blaen eto. Rhedodd y carw nerth ei draed heibio i'r trydydd crwban, ac meddai wrtho'i hun:
"Gofalaf na chaiff fy nghuro mwy." Ond gydag iddo ddywedyd y gair yr oedd crwban ar y blaen.
Wel, wel," meddai'r carw, "'Rwyn methu'n glir â deall. Bydd yn gywilydd i mi gael fy nghuro gan grwban, ac eto 'r wyf bron a cholli fy ngwynt." I ffwrdd ag ef ymlaen ymlaen, a phob tro y meddyliodd ei fod wedi ennill yr oedd crwban ar y blaen.
Yr oedd y carw wedi gwylltio'n lân erbyn hyn a gwnaeth y fath ymdrech nes syrthio yn farw, a chafodd bwystfilod y goedwig wared o'r gormeswr balch oedd wedi eu poeni am gymaint o flynyddoedd.