Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Straeon Gwerin Affrica.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan ddychwelodd y crybanod adref galwyd cyfarfod i orfoleddu am eu bod wedi ennill y râs, a'r carw yn gelain ar y ffordd.

Wedi hir ymddiddan, cododd y cadeirydd ar ei draed. "Fy Nghyd-Grybanod," ebr efe. "Yr ydym yma heddiw i orfoleddu am fod ein gormeswr wedi ei drechu." Fel y dywed y ddiareb: "Trech synnwyr na nerth." Ond rhag ofn i ninnau fyned yn ormeswyr, peidiwn â meddwl mai ni yn unig sydd yn berchen ar synnwyr."