Bob dydd elai'r fam at yr ogof. Bob dydd canai ei chân, a phob dydd symudai'r plant y garreg.
Wedi rhai misoedd aeth y fam a'r ferch hynaf adref, gan ei bod yn ddeuddeng mlwydd oed, ac nad oedd a fynno'r epaod â phlant dros yr oed hwnnw. 'Rhaid newid y gân yn awr," ebe'r fam wrth ddwy oedd i aros. "Gwrandewch fel hyn y canaf o hyn ymlaen:—
Dwy yn yr ogof,
Dwy yn yr ogof,
Ar hyd y dydd a'r haul yn tywynnu:
Ar hyd y nos a'r lleuad i fyny,
Dwy yn yr ogof,
Dwy yn yr ogof."
Yr oedd y ddwy fach yn lled ddigalon pan aeth eu chwaer hynaf adref, ac yr oedd hiraeth mawr arnynt. Nid oedd ganddynt deganau i chwarae. Yr unig beth a allent ei wneuthur i'w ddiddori eu hunain, oedd dal y madfallod a chreaduriaid bach eraill yr ogof a gwneuthur cyfeillion ohonynt.
Bob dydd, beth bynnag fyddai'r tywydd, dringai'r fam i ben y mynydd gan ganu ei chân a chario bwyd i'r plant.
Ymhen amser yr oedd yr ail ferch yn ddeuddeg oed, ac O, mor drist oedd Nasangi fach, pan glywodd