ei mam yn dywedyd "Rhaid i ti aros yma wrthyt dy hunan Nasangi. Y mae dy chwaer yn ddeuddeg oed, ac y mae'r crwban wedi dywedyd yn bendant nad oes neb i aros yma os bydd dros ddeuddeng mlwydd oed. Ond na hidia. Deuaf fi yma bob dydd i fod yn gwmni i ti. Gallaf ddod yn gynharach ac aros yn hwy, ond clyw, y mae'r gân yn newid :—
Un yn yr ogof,
Un yn yr ogof,
Ar hyd y dydd a'r haul yn tywynnu:
Ar hyd y nos a'r lleuad i fyny,
Un yn yr ogof,
Un yn yr ogof."
Ar waethaf y gofal a gymerai mam y merched bach i'w hamddiffyn rhag yr epaod cyfrwys, prowliai un corgi drwg a'i deulu yn ddibaid o amgylch y pentrefi. Gobeithiai y llwyddai i ladrata rhyw blentyn.
Tra'n eistedd mewn man dirgel uwchben pentref y merched bach, gwelodd yr epa ddwy eneth yn chwarae yn yr ardd. Ond yr oeddynt dros ddeuddeng mlwydd oed.
"Tybed," meddai wrtho'i hun, "nad oes rhagor ohonynt?" Yr oedd tair yn arfer bod yma; Un fach, fach. Ys gwn i ymhle y maent yn ei chuddio hi?"