allan i'w chroesawu. Ond ow! rhuthrodd yr Epa ati a chariodd hi i'w gartref yn y goedwig.
Wylai Nasangi fach yn hidl bob cam o'r ffordd; a lle bynnag y disgynnai un o'i dagrau tyfodd blodeuyn bach gwyn. Cyn hir aeth mam Nasangi at yr ogof a chanodd ei chân fel arfer. Disgwyliodd weled wyneb annwyl Nasangi fach yn ei chroesawu. Ond ow! mawr oedd ei galar pan eglurodd y fadfall iddi bod yr Epa mawr wedi bod yno, ac wedi canu'r gân, a Nasangi wedi meddwl mai ei mam oedd yno a symud y garreg. Eglurodd iddi sut y rhuthrodd yr Epa ati a'i chario hi i'r goedwig.
"O! fy merch annwyl," ebe'r fam.
"Beth ddaw ohonof? Y mae'r corgi drwg wedi lladd fy merch fach, ddiniwed."
Peidiwch â llefain fam fach," ebe'r fadfall. "Nid yw wedi ei lladd. Ewch yn eich ôl i'r pentref a gelwch y dynion i'w ddilyn."
"Dilyn Epa? ebe'r fam "I ble?" "Chwi welwch flodau bach gwyn ar y ffordd: dilynwch hwynt. Y maent yn arwain at balas yr Epa.'
Aeth y fam yn ei hôl ar unwaith. Galwodd y dynion, ac adroddodd ei stori wrthynt. "Rhyfel!" meddai'r dynion, ac aeth mintai o honynt gyda'u gwaywffyn ar ôl yr Epa. Wedi hir gerdded a dilyn y llwybr yn ôl cyfarwyddyd y fadfall, daethant